Aelodau Llawn & Cymrodyr

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae Llenyddiaeth yng nghalon diwylliant Cymreig. Awduron yn unig all fod yn Aelodau ac yn Gymrodyr o’r Academi Gymreig, a thrwy wahoddiad gan Aelodau cyfredol yn unig y cynigir y gwahoddiad hwn.

 

Beth mae bod yn aelod yn ei olygu

Mae gwahoddiad i awduron ddod yn Aelod o’r Academi Gymreig yn adlewyrchiad o gydnabyddiaeth cyfoedion o’u cyfraniad i lenyddiaeth yng Nghymru. Gall Aelod gael ei ddyrchafu yn Gymrawd yn dilyn bri arbennig neu os ydynt wedi gwneud cyfraniad arbennig i lenyddiaeth dros gyfnod o amser. Caiff y teitl Aelod Anrhydeddus ei roi i bobl nad ydynt yn awduron ond sydd wedi gwneud cyfraniad aruthrol i ddiwylliant llenyddol Cymru.

Dyfernir yr anrhydeddau hyn yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Aelodau ddwywaith y flwyddyn. Cliciwch yma i weld y Meini Prawf Aelodaeth yn llawn. Cliciwch yma i weld pwy sydd ar y Pwyllgor Aelodau cyfredol. Cliciwch yma i weld rhestr o holl Aelodau, Cymrodyr, Aelodau Arbennig, ac i ddarganfod pwy yw’r Llywydd Cymraeg. 
 

Buddion

Drwy dderbyn gwahoddiad i fod yn Aelod, bydd awdur yn cael ei adnabod fel un o awduron blaenllaw Cymru. Mae bod yn Aelod o’r Academi Gymreig yn galluogi awduron i gymryd rhan fwy blaenllaw ym myd Llenyddiaeth yng Nghymru. Mae aelodau yn derbyn mwy o wybodaeth am ddigwyddiadau, newyddion a chyfleoedd llenyddol yng Nghymru.

Mae Aelodau a Chymrodyr hefyd yn gymwys i dderbyn yr holl fuddion a gynigir i Gefnogwyr, gan gynnwys pris tanysgrifio gostyngedig i lawer o gylchgronau llenyddol gorau Cymru, pris gostyngol i holl ddigwyddiadau Llenyddiaeth Cymru a digwyddiadau a noddir gan Llenyddiaeth Cymru, a phris mynediad gostyngol i ddigwyddiadau penodol yn amryw o brif ganolfannau celfyddydau Cymru.
 

Cyfraddau

Tâl blynyddol Aelodaeth i Aelodau a Chymrodyr yw £20 i’r cyflogedig a £10 i’r digyflog.

I dalu eich ffi Aelodaeth blynyddol o’r Academi Gymreig, anfonwch siec (yn daladwy i 'Llenyddiaeth Cymru') am y swm perthnasol i: Yr Academi Gymreig / Llenyddiaeth Cymru, 4ydd Llawr, Adeiladau Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL. Gallwch hefyd dalu dros y ffôn ar 029 2047 2266.
 

Dewch i gymryd rhan!

Mae amryw o gyfleoedd a mentrau rhyngweithio i aelodau ar y gweill. Cadwch olwg ar y dudalen hon am fwy o wybodaeth yn fuan…