Canolfan Ysgrifennu Ty Newydd
Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd

Y mae Tŷ Newydd yn Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol sy’n cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau ysgrifennu creadigol preswyl, a phrofiadau gwerthfawr i bobl o bob oedran a chefndir.
Y mae’n dŷ hanesyddol, hardd, sydd wedi’i leoli rhwng bryniau Eifionydd, ac yn syllu draw am Fae Ceredigion ar y gorwel. Dyma le, heb os, fydd yn cynnig awyrgylch fendigedig i’ch annog a’ch ysbrydoli i ysgrifennu.
Newyddion
Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi apwyntiad Bo Mandeville fel Pennaeth Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Darllenwch mwy am ei hanes yma.
Mae rhaglen o gyrsiau a digwyddiadau Tŷ Newydd 2013 bellach i'w gweld drwy glicio yma.
YR ANRHEG PERFFAITH!
Beth am annog aelodau eich teulu neu ffrindiau i roi cynnig ar sgwennu’r gerdd sydd wedi bod yn cronni’n y pen ers blynyddoedd, neu i orffen y nofel sydd wedi bod yn y drôr cyhyd?
Rhowch daleb iddynt yn anrheg i ddod ar unrhyw gwrs ar raglen gyrsiau 2013 Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Cysylltwch â ni am y manylion.
Hefyd:
Mae Tŷ Newydd bellach ar Twitter! Dilynwch ni er mwyn derbyn y newyddion diweddaraf.
Bwrseriaeth arbennig ar gael i drigolion Gwynedd. Cliciwch yma am rhagor o fanylion.
Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd, LL52 0LW
01766 522811


