Cefnogwyr

Mae gan Aelodau’r Academi Gymreig yr hawl i lu o fanteision newydd sy'n cynnwys gostyngiad yn y tanysgrifiadau i nifer o gylchgronau llenyddol Cymru. Mae’r manteision hefyd yn cynnwys gostyngiad ar fynediad i’r holl ddigwyddiadau a noddir gan Lenyddiaeth Cymru yn ogystal â gostyngiad ar fynediad i ddigwyddiadau mewn amryw o ganolfannau celfyddydol Cymru.
Dyma’r Manteision
-
Gwybodaeth am ddigwyddiadau llenyddol at garreg eich drws
-
Blaenoriaeth a gostyngiad i holl ddigwyddiadau Llenyddiaeth Cymru
-
Gostyngiad mewn mynediad i’r holl ddigwyddiadau a noddir gan Lenyddiaeth Cymru (edrychwch am y rhain ar ein gwefan o dan ‘Digwyddiadau’, lle y nodir Noddwyd gan Lenyddiaeth Cymru)
-
Gostyngiad ym mhris tanysgrifiad i gylchgrawn Taliesin (£17 y flwyddyn yn hytrach na £19)
-
Gostyngiad ym mhris tanysgrifiad i gylchgrawn Prole (£16.50 am dri rhifyn yn lle £18, neu £24.50 yn hytrach na £26 os yn dosbarthu i gyfeiriad tu allan i'r DU)
-
Gostyngiad o 25% ar danysgrifiad i Poetry Wales (£15 y flwyddyn yn hytrach na £20)
-
Gostyngiad ar danysgrifiad i’r cylchgrawn Tu Chwith (£8 y flwyddyn yn hytrach na £14, neu £12 am ddwy flynedd yn hytrach na £24)
-
Gostyngiad ar fynediad i ddigwyddiadau penodol yn Venue Cymru yn Llandudno (fe’i hysbysebir ar y dudalen ‘Digwyddiadau’ ar ein gwefan)
-
Gostyngiad ar fynediad i ddigwyddiadau penodol yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth (fe’i hysbysebir ar y dudalen ‘Digwyddiadau’ ar ein gwefan)
-
Gostyngiad o 10% ar ddeunydd ysgrifennu cwmni MCM, Unedau 4 + 5, The Timberyard, Ffordd Rhosydd y Dwyrain, Caerdydd, CF24 5EE. Ffôn: 029 2047 0003/ Ffacs: 029 2049 2949 / E-bost: sales@mcmofficesupplies.co.uk
- Gostyngiad o 10% oddi ar archebion unigol ym Mythynnod Clynfyw yng Ngogledd Sir Benfro. Ffôn: 01239 841236 / 07980 290522
-
Gostyngiad ar ffioedd cyrsiau penodol Tŷ Newydd, a llogi bythynnod
-
Cyngor am ddim ar gyfer awduron
- Gwybodaeth o flaen llaw am ddigwyddiadau, gweithgareddau llenyddol a chyhoeddiadau
I fwynhau manteision aelodaeth a restrir uchod, bydd angen i chi ddangos eich cerdyn aelodaeth yr Academi Gymreig. Anfonir eich cerdyn aelodaeth unwaith caiff eich taliad ei dderbyn neu ei adnewyddu.
Mae’r buddion uchod yn amodol a gellir eu newid.
Tâl
Tâl Aelodaeth Gefnogol ar hyn o bryd yw £15 y flwyddyn (cyflogedig) a £7.50 (digyflog).
Sut i Ymuno
I ddod yn aelod cefnogol o’r Academi Gymreig, anfonwch siec (yn daladwy i 'Llenyddiaeth Cymru') am y swm perthnasol i: Yr Academi Gymreig / Llenyddiaeth Cymru, 4ydd Llawr, Adeiladau Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL. Dylech gynnwys nodyn yn datgan eich awydd i ymuno, ynghyd â'ch enw llawn, cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn. Gallwch hefyd dalu dros y ffôn ar 029 2047 2266.


