Cylchgronau
CYFRWNG |
|
|
|
|
| Cyfeiriad: Gwasg Prifysgol Cymru, Post Di–Dal/Freepost (CF. 1529), Caerdydd, CF10 4ZX | |
| Ffôn: 029 2087 5331 | |
| Ffacs: 029 2049 6108 | |
| Ebost: ymholiadau@cyfrwng.com | |
| Gwefan: www.cyfrwng.com | |
| Golygyddion: Dr Gwenno Ffrancon, Dr Lisa Lewis, Dr John Jewell | |
| Nifer o rifynnau mewn print: 5 | |
| Dyddiad sefydlwyd: Ebrill 2004 | |
| Math o erthyglau a gyhoeddir: Erthyglau rhyngddisgyblaethol sydd yn cyflwyno ymchwil a thrafodaeth ysgolheigaidd ar y cyfryngau yng Nghymru, sef ffilm, teledu, cyfryngau newydd, radio, newyddiaduraeth ac astudiaethau theatr a pherfformio. | |
| Polisi Golygyddol: Cyfnodlyn a guhoeddwyd unwaith y flwyddyn yn cynnwys chwe erthygl fywiog (tair wedi eu cyhoeddi’n Gymraeg a thair yn Saesneg) ynghyd ag adolygiadau o gyhoeddiadau neu gynhyrchiadau newydd. | |
| Danfon deunydd: Ni ddylai’r erthyglau fod mwy na 8,000 o eiriau mewn hyd gan gynnwys troednodiadau. Dylid cyflwyno dau gopi printiedig o’r erthygl â chrnodeb o ryw 100-150 o eiriau, 5 neu 6 gair allweddol a chyfeiriad ebost a gohebu’r awdur. Gellir cyflwyno yn Gymraeg neu’n Saesneg a dylid dilyn y canllawiau arddull sydd i’w cael ar y wefan http://www.cyfrwng.com | |
| Amser ar gyfer ymateb: 3-4 wythnos | |
|
Gwybodaeth bellach: Croesewir adolygiadau o unrhyw waith pertnasol sydd wedi ei gyhoeddi (print neu electronig) neu gynhyrchiad. Am wybodaeth bellach cysylltwch â’r golygydd adolygiadau, Dr Lisa Lewis adolygiadau@cyfrwng.com |
|
| Tanysgrifiad Blynyddol: £20 (sefydliad); £15 (unigolyn) | |
|
Sefydlwyd Gwobr Goffa James Thomas fel cydnabyddiaeth o gyfraniad Dr James Thomas (1971-2007), un o gyd-sylfaenwyr Cyfrwng a chyd-olygydd tri rhifyn cyntaf y cyfnodolyn. Nod y wobr yw annog myfyrwyr ôl-radd ac ysgolheigion ar ddechrau eu gyrfa i gyfrannu i’r trafodaethau ar gyfryngau Cymru trwy ymchwilio, ysgrifennu a chyflwyno ysgrif i’w chyhoeddi yn Cyfrwng. Ceir gwybodaeth bellach ar www.cyfrwng.com. Cefnogir y cyfnodolyn gan gynhadledd deithiol flynyddol a gaiff ei chynnal ym mis Ebrill neu Mai. Yn ystod y gynhadledd cyflwynir Gwobr Cyfrwng i unigolyn i gydnabod cyfraniad arbennig ym maes hyrwyddo’r cyfryngau torfol yng Nghymru. |
|


