Dydd y Farn: Adran Adolygiadau
Rhuo a Rhefru – Diffyg trafodaeth feirniadol ar y Celfyddydau yng Nghymru
Rwy’n meddwl mai un o’r rhesymau pennaf am y ‘rhuo a’r rhefru’ a’r ‘diffyg trafodaeth feirniadol ar y Celfyddydau yng Nghymru’ yw nad yw llawer o’n beirniaid, fel y rhan fwyaf o’u cydwladwyr, yn siwr beth yn union yw Cymru.
Dyna farn Sais diwylliedig o’r enw Gilbert Norwood amdanom, mewn adolygiad o ddrama J.O Francis, Cross Currents/Gwyntoedd Croesion, yn Y Llenor yn 1923:
Y mae’r awyr yn llawn o ryw siarad niwlog am hawliau cenedlaetholdeb, am yr ysbryd Cymreig, am obeithion Cymru. Y mae hefyd lawer o elyniaeth dan-daearol tuag at Loegr, rhyw deimlad parhaus a hanner llafar bod y Sais yng Nghmru yn diystyrru’r Cymro ac yn ei wthio o’i freiniau…
Os goddefir imi fod mor hy â’i awgrymu, y mae dwy ffordd o reoli Cymru. Un ydyw edrych ar Gymru fel rhan o Loegr, ac ystyried yr ynys yn un cyfanrwydd o Fôr y Gogledd hyd Fôr Iwerddon, a chael y manteision sylweddol a ddeilliai o’r undeb hwnnw. Y ffordd arall ydyw edrych ar Gymru fel gwlad hollol wahanedig oddi wrth Loegr, fel y mae y Swistir ar wahân i Ffrainc, a chael y manteision sylweddol a ddeilliai o’r gwahaniad hwnnw. Y mae llawer i’w ddywedyd dros y ddwy ffordd; y maent yn rhesymol ac yn weddus ill dwy. Ond ni orwedd hunan-barch nac undeb cenedlaethol ar gerdded y llwybr canol, ac anwadalu rhwng y ddwy, - bod yn rhan o Loegr pan fynner amddiffyniad a chyfoeth a chlod Lloegr, a bod yn bobol ar wahân pan fo athrylith a dewrder y Cymry, neu anturiaeth adnoddau Cymru wedi cynhyrchu rhywbeth gwerth ei hawlio. ‘Pa hyd y cloffwch rhwng dau feddwl?’ Ardderchog o beth yw bod yn genedl fechan annibynnol, urddasol fel Denmarc; ardderchog o
beth yw bod yn wlad fawr rymus fel Prydain. Ond nid ardderchog o beth yw chwarae’r ffon ddwybig, bod heddiw’n berthynas tlawd ac yfory’n gymydog cas.
Mae’r feirniadaeth yr un mor ddilys heddiw. Ar dudalennau’r Western Mail yn feunyddiol, ac yn wythnosol yn Golwg ceir, erthyglau’n dathlu bri rhyngwladol chwaraewyr rygbi a mabolgampwyr Cymru ac actorion a chantorion poblogaidd y mae ganddynt rhyw gysylltiad â’n gwlad, yn gymysg ag erthyglau a llythrau yn cwyno ein bod wedi cael cam gan San Steffan neu ‘Ewrop’ a bod rhyw seleb o Sais neu Saesnes wedi dweud pethau cas amdanom. Ceir honiad fod Cymru’n arwain y byd yn rhyw faes gwyddonol neu ddiwydiannol ar y naill dudalen, a gresynu ei bod yn un o ranbarthau mwyaf difreintiedig Ewrop ar y llall. Cymru, weithiau, yw’r ‘genedl’ y cyfeirir ati, ac weithiau, y Deyrnas Gyfunol.
Nid annheg yw dweud mai arwynebol yw adnabyddiaeth y rhan fwyaf o’n deallusion o hanes Cymru ac o’r datblygiadau economaidd a chymdeithasol a’i gwnaeth hi yr hyn ydyw heddiw; ac na na wyr llawer o’n cenedlaetholwyr fawr mwy am y pwnc na geiriau eirias caneuon ac anthemau Dafydd Iwan: Macsen Wledig, y ddau Lywelyn, Glyndwr, Llosgi’r Ysgol Fomio, Pont Trefechan, buddugoliaeth Gwynfor yng Nghaerfyrddin yn 1966, siom Refferendwm 1979, buddugoliaeth fain 1997 a sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol. Parhad yr Iaith, nid dyfodol y genedl, yw consyrn y rhan fwyaf o’r cenedlaetholwyr Cymraeg.
Ceir dwy garfan o genedlaetholwyr di-Gymraeg; rhai rhyddfrydol, Ewropeaidd eu gorwelion, mewn-fudol, yn aml iawn, sy’n gweld gwarchod diwylliant Cymru a’i thirwedd fel rhan o’r un ymgyrch ecolegol, wyrddlas, fyd-eang; a’r rhai brodorol sydd o’u couau am fod cyn lleied o’u cydwladwyr yn ewyllysio bod yn genedl go-iawn, fel Iwerddon neu UDA, ac yn darlunio’r difrawder hwnnw fel math o glefyd gwenerol – a sexually transmitted disease.
Mae hyn yn adlewychu’r ffaith mai cyflwr goddrychol yw Cymreictod i’r rhan fwyaf o drigolion Cymry yn hytrach na theyrngarwch i gymuned hanesyddol ac endid gwleidyddol, gwrthrychol.
Maen tramgwydd arall yw damcaniaethu cyfeiliornus – yn fy marn i, o leiaf – ynglyn â diben creadigrwydd celfyddydol yng Nghymru. Nid wyf i’n meddwl y dylai’r ystyriaethau canlynol fod yn meddwl y beirniad wrth iddo gloriannu gwerth cerdd, nofel, drama, darlun neu ddarn o gerddoriaeth:
Gallai hybu twristiaeth, creu swyddi a hybu’r economi leol.
Mae’n cryfhau’r ymwybyddiaeth o Gymreictod, neu o werth yr iaith Gymraeg, neu’n profi fod y Gymraeg yn iaith gymwys i drafod rhai o broblemau mwyaf dyrys bywyd ar ddechrau’r unfed-ganrif-ar-hugain..
Mae’n rhoi cyfle i artist o Gymro neu Gymraes ddisgleirio ar lwyfannau rhyngwladol – yn Lloegr ac UDA, fel arfer – ac yn ‘codi proffil’ Cymru ymhlith cenhedloedd y byd.
Fel Prozac a valium, gwna i’r Cymry ‘deimlo’n gyfforddus gyda hwy eu hunain’.
Saunders Lewis (1893-1985)
Yn hytrach na damcaniaethu ymhellach, rwyf am ystyried yn awr gymwysterau beirniad llenyddol disgleiriaf yr ugeinfed ganrif yn y Gymraeg gan gofio bod angen rhai cyffelyb ar feirniaid mewn meysydd eraill:
Profiad o fywyd y tu allan i fyd y celfyddydau ac academia. Gwasanaethodd S.L. fel swyddog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac fe’i clwyfwyd. Roedd yn un o sylfaenwyr Plaid Genedlaethol Cymru a bu’n Llywydd arni rhwng 1925 a 1943.
Adnabyddiaeth drylwyr o lenyddiaeth Cymru drwy’r oesau.
Adnabyddiaeth eang o lenyddiaethau gwledydd eraill, yn enwedig Lloegr, Ffrainc, yr Eidal a chlasuron Gwlad Groeg a Rhufain ac o’r celfyddydau’n gyffredinol.
Cariad dwfn at lenyddiaeth a chydymdeimlad â phob bardd a llenor diffuant.
Dealltwriaeth o gonfensiynau a thechnegau’r genre dan sylw. (Gyda rhai eithriadau prin, bodlona adolygwyr Cymraeg ar grynhoi plot y nofel neu’r ddrama, disgrifio’r prif gymeriadau a chanmol neu feirniadu’r iaith.)
Gwrthrychedd a gonestrwydd. Clywais Saunders Lewis yn addef ei fod yn ‘ffyrnig o wrth-Sosialaidd’ ond dyma’i eiriau mewn cyfres o ysgrifau ar Farcsiaeth a ymddangosodd yn Y Ddraig Goch, misolyn Plaid Genedlaethol Cymru, yn 1938: Y mae’n bwysig iawn wynebu ein gelynion yn deg. Byddai’n loes i mi pe gellid profi bod unrhyw bwynt hanfodol yn y daddansoddiad o Farxiaeth yn yr anerchiad hwn yn gamliwiad.
Esgymuno ystyriaethau personol, pleidiol neu sectyddol o’r drafodaeth. Ar dudalennau’r Llenor yn nauddegau a thridegau’r ganrif ddiwethaf, codwyd beirniadaeth lenyddol Gymraeg uwchlaw cecru cul, sectyddol ac anwybodus y degawdau cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yr enghraifft orau o warineb y diwygiad hwnnw yw’r ddadl hirfaith rhwng y rhyddfrydol, W.J. Gruffydd ac R.T. Jenkins a’r adweithiol Saunders Lewis ac Ambrose Bebb.
Meddu athrawiaeth gydlynus a byd-olwg eang wedi eu sylfaenu ar realaeth gymdeithasol a’i galluogai i osod y gweithiau Cymraeg yr ymdriniai â hwy mewn cyd-destun cyfanfydol a’u cymharu â gweithiau awduron mewn ieithoedd eraill. Mae’n anodd, mewn gwlad fechan fel Cymru, i feirniad ffrwyno’i awydd naturiol i beidio â ‘phechu’ cyfaill, cydweithiwr, neu gydnabod, ar y naill law, ac i dalu’r pwyth i rywun sydd wedi ei bechu o neu hi, ar y llall. Mae ymlyniad wrth werthoedd ideoleg gyffredinol, boed geidwadol, ryddfrydol, sosialaidd neu grefyddol, yn gymorth i oresgyn rhagfarnau personol ac yn rhoi sylfaen athronyddol gadarnach i’r feirniadaeth nag eclectiaeth oddrychol a mympwyol.
Ganwyd a magwyd Saunders Lewis yn Lerpwl Victorianaidd ac Edwardaidd, yn aelod o ddosbarth canol a arweinid gan fasnachwyr, bancwyr a diwydiannwyr cefnog; yr unig fwrgeisiaeth gref a hunan-ymwybodol a feddodd y Cymry erioed. Addysgwyd ef mewn ysgol breifat, ddrud ac ym Mhrifysgol Lerpwl, gan athrawon ceidwadol; wedyn daeth dan ddylanwad adweithiol, Maurice Barrès a llenorion Ffrengig eraill o gyffelyb fryd ac anian. Dyma rai o’r datganiadau diddorol a ddeilliodd o’r gynhysgaeth ddiwylliannol honno f el y’u ceir mewn ysgrif ar Safonau Beirniadaeth Lenyddol yn y Y Llenor, (Cyfrol 1), 1922:
Yr wyf yn credu bod popeth sy’n gelfyddyd, boed gân neu gerflun, yn beth unig, arbennig, ac yn gwbl ddigymar. Yn y pen draw ni ellir dosbarthu hyd yn oed y delyneg leiaf; y mae hi’n beth ar ei phen ei hun. Y rheswm am hyn yw bod celfyddyd yn ddehongliad o bersonoliaeth yr awdur, yn gynnyrch ei ysbryd a’i brofiad; ac y mae pob awenydd yn greadur neilltuol, heb iddo na chymar na neb ar y ddaear a gydymdeimlo’n llwyr ag ef. Ffrwyth unigedd enaid yw celfyddyd – ie, ac enaid a edwyn ei unigedd ac a wyr ei lethu ganddo, - ymgais i bontio’r gwagle erchyll sydd rhwng dyn â’i gilydd…
…f’amcan yw ceisio profi nad oes a wnelo’r beirniad llenyddol ddim â barnu llenyddiaeth na’i safoni hi...gwaith beirniad llenyddol yw cyfansoddi llenyddiaeth. Onid hynny yw uchelgais pob llenor? Fe gais y bardd a’r llenor ddatgan eu profiad o’r byd, gan roddi inni bortread o fywyd yn nrych eu meddwl eu hunain. Mewn un peth yn unig y mae’r llenor yn wahanol iddynt, sef yn ei fater. Dyn a chymdeithas yw deunydd y nofelydd, a llenyddiaeth yw deunydd y beirniad.
...y mae hanes llenyddiaeth pob gwlad yn profi’n gyson foid yn rhaid dinistrio safonau a fu rywdro’n ddefnyddiol.
Ple bynnag y bo cystadlu a safoni mewn celfyddyd, y mae’n ddiddorol sylwi y rhoddir pwys arbennig ar dueddiadau moesol y cystadleuwyr. Nid yn eisteddfodau Cymru yn unig y gwelir hyn. O ddarllen dramâu Aristophanes a hanes bywyd Euripides fe ganfyddir bod safonau beirniadaeth Roegaidd eu hoes hwy yn llawn mor foesol â safonau aml feirniad eisteddfodol yng Nghymru.
Mae’r sylwadau canlynol yn fwy dadleuol:
Dyma un rheswm - nid yr unig reswm – paham na ddichon y werin adnabod llenyddiaeth. Nid sarhad ar neb yw dywedyd hyn. Ond mae’n anlwg na all y ‘dyn cyffredin’ ddeall yr anghyffredin ond ymhen peth amser maith; a’r anghyffredin yw hanfod llenyddiaeth…
Mi glywais, ond ni wn ai gwir hynny, mai gwerinol yw argyhoeddiadau politicaidd Mr Willilams-Parry. Y mae’r syniad yn wrthun. Nid oes gan artist hawl i fod yn werinwr. Y mae ei etifeddiaeth yn rhy hen.(Barddoniaeth Mr R.Williams-Parry yn Y Llenor (Cyfrol 2),1922.)
Colled i lenyddiaeth yw colli pechod. Heb bechod ni cheir fyth ddim oddieithr barddoniaeth delynegol megis y sydd yng Nghymru heddiw, ac a glywais ddweud, sydd yn y nefoedd, gwlad arall sy’n brin o bechaduriaid. Ond a ninnau ar y ddaear, dylem barchu ein hetifeddiaeth a gwneud yn fawr o bechod. Hwn yw deunydd trasiedïau gorau’r byd, gwaith Shakespeare a Racine. ( Llythyr ynghylch Catholigiaeth, yn Y Llenor, Haf 1927)
Nid fi yw’r beirniad cyntaf i sylwi mai hanfod trasiedi yw argyhoeddiad fod angau’n derfynol ac nad oes ‘byd a ddaw’ ond fod yr ysbryd dynol, fel y’i ymgnawdolir yn Antigone ac Othello yn nramâu Sophocles a Shakespeare a John ac Elizabeth Proctor yn The Crucible gan Arthur Miller, er enghraifft, yn rhagorach peth na’r grymusderau negyddol sy’n lladd y corff. Os cyfoethogwyd meddwl S.L. gan ei grefydd, fe’i culhawyd hefyd. Mae ei sylwadau ar weithiau awduron y medrai eu cynnwys yn yr hyn a alwai yn ‘draddodiad clasurol, Cristnogol Ewrop’ wastad yn dreiddgar a dadlennol ond nid oes ganddo ddim ond dirmyg at y lleill, yn rhamantwyr, rhyddfrydwyr ac unrhyw un sydd â gair da am y Chwyldro Ffrengig.
Dyma ddyfyniad o ateb W.J. Gruffydd, Golygydd Y Llenor i’r Llythyr ynghylch Catholigiaeth:
‘...gwyddom mai’r ‘anffyddwyr’ a’r ‘amheuwyr a’r ‘hereticiaid’ sydd wedi bod erioed wrth wraidd pob symudiad i dorri hualau hen greulonderau ac i agor ffenestri ar bob hen ffolineb a llyfdra. Heddiw, un o ffolinebnau anfeidrol y byd, y pechod gwarfhus sy’n cadw blas gwaed ar ei dafod, ydyw rhyfel; ac mae’r bobl sy’n credu mewn rhyfel fel peth daionus ac anorfod i gyd yn bobl sydd â chredo grefyddol bendant ganddynt...’
Plus ça change...
Perodd ceidwadaeth adweithiol S.L. iddo goleddu daliadau gwleidyddol hollol wrthgyferbynus i rai’r rhan fwyaf o’i gydwladwyr, brodorion un o wledydd mwyaf proletaraidd Ewrop ar y pryd. Llawenychodd ym muddygoliaeth y Cadfridog Franco dros y Weriniaeth yn Rhyfel Cartref Sbaen a phlediai niwtraliaeth Gymreig yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Mae molawd S.L. i ‘bechod’ yn croes-ddweud ei sylwadau blaenorol am amherthnasedd ystyriaethau moesol wrth gloriannu gweithiau llenyddol. Credaf fod ei ymlyniad wrth ddysgeidiaeth Eglwys Rufain ynglyn â rhywioldeb – ar ben piwritaniaeth lem ei fagwraeth Anghydffurfiol Gymreig – wedi niweidio ei waith fel dramodydd a nofelydd hefyd. Gwir y galwodd Branwen Jarvis ef yn ‘Broffwyd Patriarchaeth’; mae ei fenywod un ai’n santesau arwrol sy’n agos iawn i’w lle fel mamau a gwragedd – Iris, yn Gymerwch chi Sigaret?, Siwan yn y ddrama o’r un enw, er enghraifft; neu’n greaduriaid anwadal ac anfoesol, fel Blodeuwedd a Monica.
Athrawiaeth ar gyfer yr unfed-ganrif-ar-hugain
Collodd Eglwys Rufain, ers peth amser, y grym a’r awdurdod a feddai yn nauddegau a thridegau’r ganrif ddiwethaf wrth i filiynau o’i ffyddloniaid yn yr hen ‘Wledydd Cred’ gefnu arni. Trengodd y Gomiwnyddiaeth Sofietaidd yr oedd Saunders Lewis yn ei pharchu, fel gwrthwynebydd teilwng – onid ffydd awdurdodol a dogmatig oedd hithau? – tra y collfarnai ei gweledigaeth faterol, gwrth-fetaffysegol.
Dyweder a fynner am yr Undeb Sofietaidd – ac rwyf i’n meddwl iddi wneud llawer iawn mwy o dda nag o ddrwg - ni ellir gwadu i’w bodolaeth orfodi Cyfalafiaeth ac Imperialaeth i ymddwyn yn annaturiol; h.y., rhyddhau trefedigaethau yn yr Affrig ac Asia, sefydlu gwladwriaethau lles ac ychwanegu’n sylweddol at hawliau’r undebau llafur yn Ewrop a diarfogi niwclear.Yn dilyn ei diflaniad hi a’i chyngrheiriaid sosialaidd yn Ewrop, adferwyd y status quo ante, ac wele Cyfalafiaeth ac Imperialaeth yn awr, red in tooth and claw, fel yr oeddynt cyn 1917. Disodlwyd Keynesiaeth y ddeng mlynedd ar hugain wedi’r Ail Ryfel Byd gan neo-ryddfrydiaeth Reagan a Thatcher a thanseiliodd hynny yr ideolegau rhyddfrydol a sosialaidd-ddemocrataidd a ffynnai yn y gofod syniadaethol rhwng Washington a Moscow. Mudodd llu o artistiaid ac academwyr tua’r Dde. Cofleidiodd llawer wleidyddiaeth George W. Bush a’r neo-cons Americanaidd, gan gymeradwyo’r ‘rhyfel yn erbyn
terfysgaeth’, Islamophobia a’r goel fod ‘Hanes wedi darfod’. Suddodd eraill yng nghorsydd myfïol, mewn-blyg, gwamal, gwrth-realaidd Ôl-foderniaeth neu aethant ar ddisberod mewn diffeithwch o theorïau ysgolheigaidd, sychion.
Daeth teyrnasiad George W.Bush i ben yr un pryd â methdaliad diweddaraf y gyfundrefn economaidd a gwleidyddol y milwriaethai drosti. Bellach, mae’r goludogion a fu’n datgan mor dalog mai ymyrraeth y wladwriaeth mewn materion economaidd oedd wrth wraidd problemau cymdeithas ac mai’r farchnad rydd, ddilyffeithair biau’r atebion, yn cydnabod mai fel arall yn hollol y mae hi. Dyna pam y daliaf i, yn fwy hyderus yn awr nag y buaswn rhyw ddeunaw mis yn ôl, fod Marcsiaeth yn ‘athrawiaeth gydlynus wedi eu sylfaenu ar realaeth gymdeithasol’ sy’n cynnig dehongliadau o hanes Cymru a dibenion Celfyddyd y mae’n werth i artistiaid a beirniaid roi ystyriaeth ddifrifol iddynt; ac y gall fod o fudd i artistiaid Cymreig drwy eu galluogi i oresgyn plwyfoldeb ar y naill law a provincialism a Phrydeindod ar y llall.
Crynodeb byr iawn o sylfeini Marcsiaeth.
• Amgylchiadau cymdeithasol sy’n llunio ymwybyddiaeth dyn ac nid fel arall.
• Y mae dynion, yn wryw a benyw, erioed wedi ymdrechu i ychwanegu at eu rhyddid; hanfod yr ymdrech honno yw’r rheidrwydd sydd arnynt i feistroli amgylchiadau materol eu bodolaeth.
• Ar adeg arbennig yn hanes cymdeithas fe ymrannodd yn nifer o ddosbarthiadau economaidd a’u buddiannau yn gwrthdaro â’i gilydd. O’r sail hanesyddol a chymdeithasol hon y cyfododd y rhyfel dosbarth. O safbwynt y rhyfel hwn, prif amcan y dosbarth llywodraethol ydyw cadw’r llywodraeth yn ei ddwylo ei hun; fe wrthwyneba gyfnewidiadau cymdeithasol, fe bair i ddiwylliant a chynnyrch sefyll fwyfwy yn eu hunfan, ac fe ddibyna fwyfwy ar arfau i sicrhau ei awdurdod. Prif amcan dosbarth darostyngediog yw ei ryddhau ei hunan o’i gaethiwed i’r dosbarth llywdraethol a’i sefydlu ei hunan yn ddosbarth llywodraethol newydd. (W.J. Rees, yn y Rhagair i’w gyfieithiad o’r Manifffesto Comiwnyddol gan Karl Marx a Frederich Engels).
• Y ffactorau y mae’n rhaid eu hamgyrffred os ydym am ddeall unrhyw ffenomen hanesyddol, boed chwyldro, neu’n ddiwygiad cymdeithasol, newid gwleidyddol, nofel, drama neu athrawiaeth arbennig yw dulliau cynhyrchu’r cyfnod a nerth cymharol a chyd-berthynas y gwahanol ddosbarthiadau.
Hanes Cymru
Daeth Ffrainc yn genedl-wladwriaeth am fod angen cyfundrefn o’r fath ar y fwrgeisiaeth Ffrengig i warchod ei diwydiannau, ei marchnadoedd a’i heiddo. Digwyddodd proses debyg ym mhob un o wledydd Ewrop y sefydlwyd gwladwriaeth sofran ynddi. Nid oherwydd ein bod ni Gymry yn bobl fwy israddol neu daeog na’r rhelyw yr amddifadwyd ein gwlad o’i gwladwriaeth ei hun ond am nad oedd yma, yn y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd-ganrif-ar-bymtheg, ddosbarth cymdeithasol niferus ac arno angen un i hyrwyddo’i fuddiannau. Roedd gallu masnachu â gweddill y Deyrnas Gyfunol a’r Ymerhodraeth yn anhepgorol i ffyniant cyfalafwyr y De ac oherwydd hynny rhaid oedd i’r werin weithiol hi ymgynghreirio â’i chymrodyr yn Lloegr a’r Alban ac ymuno â’r un undebau a phleidiau gwleidyddol â hwy i wrthsefyll a gorthrymderau dosbarth llywodraethol Prydeinig, unedig o gyfalafwyr a thirfeddianwyr.
Rhwng 1848 blwyddyn Brad y Llyfrau Gleision a 1922 pan ddatgysylltwyd yr Eglwys Wladol, llwyddodd dosbarth canol Anghydffurfiol-Ryddfrydol y Gogledd a’r Gorllewin i ddod yn ddosbarth llywodraethol rhanbarthol dros ran helaeth o Gymru gyda grym a dylanwad yn San Steffan a Whitehall a hynny heb fygwth undod y Deyrnas Gyfunol. Gyda prifweinidogaeth Lloyd George a’r Datgysylltiad, gwireddwyd dyheadau dyfnaf y dosbarth hwnnw ac eithrio ei deallusion, yn weinidogion yr Efengyl, ysgolheigion ac athrawon gan fod yr iaith Gymraeg, eu ffon fara hwy, dan fygythiad. Y garfan ddysgedig a diwylliedig honno sefydlodd Plaid Genedlaethol Cymru a newidiodd ei henw yn Plaid Cymru ac yna’n Plaid.
Cymru Heddiw
Mae gennym Gynulliad Cenedlaethol egwan ac ynddo gynrychiolwyr pedair plaid ddosbarth-canol sy’n arddel rhyw fath o genedlaetholdeb claear a Llywodraeth glymbleidiol sy’n ceisio gweithredu polisïau sosialaidd-ddemocrataidd heb dramgwyddo rheolau ac egwyddorion arianyddol Neo-ryddfrydiaeth, h.y., Thatcheriaeth y Ceidwadwyr a Llafur Newydd. Byth a hefyd, clywir ASau ac ACau yn gresynu fod ‘pobol, yn enwedig pobol ifanc, wedi colli diddordeb mewn gwleidyddiaeth’. Ni chlywais yr un yn cydnabod mai’r rheswm am hynny yw eu bod hwy wedi difreinio’r rhan fwyaf o’u hetholwyr trwy ymwrthod yn llwyr â pholisïau a fyddai’n ymateb i’w hanghenion hanfodol: heddwch byd-eang, diogelu’r amgylchedd, cyflogaeth lawn, tai cyngor o safon uchel, gwasananaethau iechyd ac addysg effeithiol yn rhad ac am ddim i bawb, trafnidiaeth integreiddiedig a diwylliant sy’n deillio o’u hanes a’u profiad hwy yn hytrach nag o ffatrioedd adloniant y
corfforaethau cyfryngol. Amod cyflawni hyn oll yw llyffetheirio’r Farchnad Rydd; ‘y peth syml sydd mor anodd i’w gyflawni’, chwedl Bertolt Brecht.
Fyddwn ni’r Cymry fyth yn ‘genedl go-iawn’ fel Lloegr neu Ffrainc, na hyd yn oed Iwerddon. Cyffelyb yw’n statws i eiddo cenhedloedd brodorol cyfandir De Amerig sydd yn awr, wedi canrifoedd o orthrwm, yn mynnu ymreolaeth wleidyddol ac economaidd yn eu tiriogaethau traddodiadol, ynghyd â pharch i’w diwylliannau, eu traddodiadau a’u hieithoedd.
Wynebwn y ffaith drist a chywilyddus mai trefedigaeth yw Cymru; trefedigaeth Seisnig; trefedigaeth gyntaf Lloegr a’r olaf.
Estheteg Gymreig
Nid galw yr wyf ar artistiaid Cymru i bregethu ac i bropagandeiddio dros y rhaglen wleidyddol hon ond eu hannog i osod eu creadigrwydd yng ngherrynt cymdeithasol pwysicaf ac mwyaf arwyddocaol yr unfed-ganrif-ar hugain. Nid wyf chwaith yn ceisio eu perswadio i arddel yr un daliadau gwleidyddol â mi; dim ond gofyn iddynt ystyried Marcsiaeth fel arf syniadaethol a all ddyfnhau ein dealltwriaeth o’r gymdeithas ac o’r byd yr ydym yn byw ynddynt ac o’r hyn y ceisiwn ei gyflawni fel arlunwyr, cerddorion, beirdd a llenorion.
Yn ôl beirniaid Marcsaidd fel y Gwyddel, George Thomson (gw. Aeschylus and Athens a The Prehistoric Aegean), dechreuodd dawns, cerddoriaeth, barddoniaeth ac arlunio fel swyn-gyfaredd, sef, ymdrechion ein cyndadau cyntefig i ewyllysio trwy ddefod lwyddiant i’r helfa a hinsawdd a fyddai’n fendithiol i’w cnydau. Mewn cymdeithasau mwy cymleth, ceisia artistiaid greu synthesis o groestyniadau goddrychol a gwrthrychol ac o brofiadau sy’n eu trallodi neu’n eu llawenhau; creu o dryblith eu profiadau ystyr y gall eraill uniaethu ag ef.
Pe gofynnid imi roi enw ar yr estheteg y ceisiaf ei disgrfio, fe’i galwn hi’n ‘Realaeth ddyneiddiol a democrataidd’. Dyma ddwy nofel ac un ddrama ddiweddar sy’n realaidd, yn ddyneiddiol ac yn ddemocrataidd eu hanianawd ac a roddodd fwyhnad mawr i mi. Fel pob creadigaeth gelfyddydol lwyddiannus, maent yn peri inni ryfeddu at ddycnwch, arwriaeth, allgaredd a mileindra dynol-ryw ac at ddawn a darfelydd yr artist.
Teulu Lord Bach gan Geraint Vaughan Jones, (Gomer). Hanes teulu mewn ardal chwarelyddol yn Sir Feirionydd yn ceisio ymdopi ag effeithiau’r ddau Ryfel Byd a Dirwasgiad dauddegau a thridegau’r ugeinfed ganrif.
Petrograd gan Wiliam Owen Roberts, (Barddas). Hanes teulu uwch-fwrgeisaidd Rwsiaidd yn ystod y Chwyldro Bolsieficaidd a’r blynyddoedd canlynol.
Mae’r dwy nofel yn adrodd straeon gafaelgar am gymeriadau diddorol a chredadwy ac yn dyfnhau ein hadnabyddiaeth o’n byd ac o’n cyd-ddynion trwy ddodi cnawd a gwaed ar esgyrn Hanes
Amgen:Broken gan Gary Owen (Sherman Cymru). Drama fentrus, ddwyieithog sy’n archwilio’r berthynas rhwng iaith a phersonoliaeth a’r gwerthoedd gwahanol sy’n ymhlyg yn y ddwy iaith a siaredir gan yr un person. Mae hi hefyd yn peri i’r gynulleidfa amgyffred yr ymddieithriad ingol sy’n andwyo bywydau cynifer o bobl ifainc heddiw ac weithiau’n eu difodi. Pan welais i’r ddrama hon roedd dros hanner y gynulleidfa yn ddi-Gymraeg, gan gynnwys pobl o wledydd eraill, ond a barnu ar y drafodaeth frwd rhwng y Cwmni a’r gynulleidfa ar ddiwedd y perfformiad, nid oedd hynny wedi menu ar eu gwerthfawrogiad.
Propaganda’r Prydydd
Bardd y mae ei gerddi aeddfed yn ddyneiddiol ac yn ddemocrataidd eu naws ac yn arddangos ymwybyddiaeth o groestyniadau cymdeithasol ffyrnicaf ei oes yw R.Willliams-Parry (1884-1956). Ni fwriadwyd y gyntaf o’r cerddi a ddyfynnir fel atebiad i edmygedd snobyddlyd Saunders Lewis, am wn i, ond gwna hynny’n effeithiol iawn. Yn yr ail, mae’r bardd yn disgrifio swyddogaethau’r Awen yn ei oes ei hun ac heddiw.
“GORCHESTION BEIRDD CYMRU” 1773
Pob gorchest gain ac anodd
Ddarllenais, popeth ganodd
Y beirdd bob un;
Heibio i awen galed
Reolaidd Tudur Aled
Hyd Wiliam Ll^yn.
Dan ambell awdl a chywydd,
Fel achlysurol drywydd
Yma a thraw,
Ymhlith yr anfarwolion
Gwelwn hynafol olion
Rhyw farwol law.
Ac enw a chyfeiriad
Mewn anllythrennog eiriad
Gennyf fi
Oedd fiwsig cerdd fwy iasol
Na champau’r gw^yr urddasol
Mawr eu bri.
Fel pan ar hwyr o Fedi
Y gwelir dan rifedi
Disglair sêr,
Trwy ryw bell ffenestr wledig
Oleuad diflanedig
Cannwyll wêr.
CYMRU 1937
Cymer i fyny dy wely a rhodia, O Wynt,
Neu’n hytrach eheda drwy’r nef yn wylofus waglaw;
Crea anniddigrwydd drwy gyrrau’r byd ar dy hynt -
Ni’th eteil gwarchodlu teyrn na gogorddlu rhaglaw.
Dyneiddia drachefn y cnawd a wnaethpwyd yn ddur,
Bedyddia’r di-hiraeth â’th ddagrau, a’r doeth ai-gristia;
Rho awr o wallgofrwydd i’r llugoer tu ôl i’w fur,
Gwna ddaeargrynfeydd dan gadarn goncrit Philistia;
Neu ag erddiganau dy annhangnefeddus grwth
Dysg i’r di-fai edifeirwch, a dysg iddo obaith;
Cyrraedd yr hunan-ddigonol drwy glustog ei lwth,
A dyro i’r difater materol ias o anobaith:
O’r Llanfair sydd ar y Bryn neu Lanfair Mathafarn
Chwyth ef i’r synagog neu chwyth ef i’r dafarn.
* * *
“Dwi am weld Cymru sy’n gyfforddus gyda hi ei hun, a’i phobl yn hyderus yn eu gwerth a’u hunaniaeth eu hunain”
Finnau hefyd, ond chawn ni mo hynny tan ar ôl y Chwyldro Sosialaidd Ewropeaidd a ddaw hwnnw ddim am sbel.
Cyngor i’r Cyngor
Hoffwn weld Cyngor Celfyddydau Cymru yn rhoi’r gorau i ariannu cystadlaethau celfyddydol ‘agored i’r byd’ a’u gwybrwyon enfawr ac ymweliadau a’r Biennale yn Venice gan artist neu ddau a dyrnaid o swyddogion a gweinyddwyr y Cyngor. Mae’r achlysuron hynny’n swcro cenedlaetholdeb diwylliannol, arwynebol ac ymhonnus carfan ddethol heb fod o fudd i drwch y boblogaeth. Dylid cyfeirio’r arian a arbedid at hyrwyddo ymarfer a gwerthfawrogi’r celfyddydau mewn ysgolion ac ardaloedd difreintiedig.
GARETH MILES.
Llyfryddiaeth Ceir casgliad diddorol o ysgrifau ar lenyddiaeth a beirniadaeth lenyddol gan Karl Marx,, Frederich Engels, Christopher Caudwell, George Thomson, Georg Lukacs, Bertolt Brecht ac eraill rhwng cloriau MARXISTS ON LITERATURE: An Anthology. Gol. David Craig. (Penguin).


