Dydd y Farn: Adran Adolygiadau

Dyma adolygiad Sioned Williams o gynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru, Y Gofalwr gan Harold Pinter a chyfieithiad gan Elis Gwyn. Mawrth 2010.

Mae’n deg dweud bod nifer dda o’r gynulleidfa ddaeth i weld cynhyrchiad diweddara’r Theatr Genedlaethol ym Mhontardawe ar yr un noson a finnau ganol y mis diwethaf ar bigau’r drain. Roedd Cefin Roberts newydd gyhoeddi ei fod yn camu lawr fel cyfarwyddwr artistig y Theatr Genedlaethol. Roedd cynhyrchiad diwetha’r Cwmni, Tyner yw’r Lleuad Heno, wedi ei feirniadu’n hallt a’r bore hwnnw roedd Y Cymro wedi cyhoeddi adolygiad Paul Griffiths o berfformiad agoriadol Y Gofalwr dan y pennawd - “Methiant Arall.” Roedd y cynhyrchiad hwn felly’n fwy na pherfformiad o un o glasuron mawr y theatr gyfoes. Yng nghyd-destun y drafodaeth gyhoeddus ddiweddar ar rôl a safon cynyrchiadau’r Theatr Genedlaethol, roedd Y Gofalwr yn cario baich ofnadwy o drom. Doedd dim modd anwybyddu’r dadleuon a gododd am gyfeiriad y cwmni wrth bwyso a mesur y cynhyrchiad hwn .

Un rhan o’r ddadl ynglŷn â natur arlwy’r Theatr Genedlaethol dros y blynyddoedd diwethaf oedd nifer y cyfieithiadau a lwyfannwyd. Er dwi’n cyd-fynd yn llwyr gyda’r ddadl bod angen canolbwyntio ar ddatblygu a llwyfannu ysgrifennu newydd, dwi o’r farn hefyd bod gan gyfieithiadau le hanfodol ar ein llwyfan genedlaethol, ac rwy’n ystyried rhai o’r cyfieithiadau a lwyfannwyd gan y Theatr Genedlaethol yn rhai o lwyddiannau mawr y cwmni - gan gynnwys nid yn unig y cyfieithiadau o ddramâu a gyfansoddwyd yn wreiddiol mewn ieithoedd Ewropeaidd fel Cariad Mr Bustl, ond hefyd Y Pair, cyfieithiad arbennig Gareth Miles o The Crucible Arthur Miller.

Fe gododd sawl elfen o’r dadleuon ynglŷn â chyfieithiadau i’r wyneb wrth wylio’r cynhyrchiad hwn o Y Gofalwr. Beth oedd rhinwedd llwyfannu’r cyfieithiad hwn? Gan fod newid iaith yn anorfod yn newid byd-olwg a chyd-destun gwaith creadigol, a gawsom felly wedd newydd ar waith Harold Pinter gan y cynhyrchiad?

Un peth sy’n sicr, roedd rhai yn y gynulleidfa yr oeddwn i’n rhan ohoni’n cael eu cyflwyno i waith Pinter am y tro cyntaf - a hynny am ei fod yn y Gymraeg. Dwi’n siŵr bod nifer o Gymry Cymraeg yn medru uniaethu a’r profiad o gael eu cyflwyno i waith awduron yn y Gymraeg yn gyntaf. Fe welais innau fy nrama Ibsen gyntaf pan yn bedair ar ddeg oed am ei fod yn y Gymraeg. Fydden i ddim wedi dewis mynd i weld cynhyrchiad o waith Ibsen yn y Saesneg bryd hynny - es i achos ro’n i’n mynd i weld unrhyw gynyrchiadau a oedd yn y Gymraeg. Fel S4C a Radio Cymru, mae’r Theatr Genedlaethol efallai wedi teimlo ei bod yn gorfod bod yn bopeth i bawb. Mae Cefin Roberts wedi son bod angen i’r cwmni fod ag apêl eang. Ond mae gan hyn hefyd felly ei agweddau cadarnhaol yn ogystal â’i thrafferthion a bod teyrngarwch y gynulleidfa yn cael ei ystyried yn rhywbeth y gellid defnyddio er mwyn ehangu gorwelion ac ymestyn profiad yn hytrach na rhywbeth sy’n cyfyngu a llesteirio ac yn esgus dros lwyfannu cynyrchiadau annheilwng. Fel mae Cwmni Bara Caws wedi dangos droeon - gall cynhyrchiad fod yn raenus heb fod yn uchel ael.

Fodd bynnag dyw llwyfannu Y Gofalwr ddim yn ddewis ofnadwy o radical. Wedi’r cyfan, nid sôn ydyn ni am awdur na gwaith anadnabyddus. Mae hwn yn un o brif weithiau'r canon llenyddol ers y Rhyfel. Mae The Caretaker yn cael ei hastudio fel rhan o faes llafur arholiadau TGAU a Safon Uwch heb son am fod yn amlwg ar gyrsiau israddedig Saesneg ac Astudiaethau Theatr. Ac roedd Harold Pinter yn llenor cyhoeddus , yn enwedig yn y cyfnod diweddara (- ei flynyddoedd diwetha - ) wrth iddo ennill gwobr Nobel a bytheirio Bush a Blair. Ydy mae’n waith cymhleth, yn amlochrog ac aml haenog, a’i helfennau abswrdaidd yn golygu nad oes iddi fawr iawn o stori yn yr ystyr draddodiadol, ond dyw hi ddim yn ddrama anghyfarwydd, estron ac astrus. Gellid felly dadlau ei fod yn gynhyrchiad gweddol brif ffrwd mewn termau theatrig. Oedd mi oedd yna rai yn y gynulleidfa a oedd yn gofyn “be sy’n mynd ymlaen” a heb fod yn gyfarwydd â gwaith o’r fath ond mae cynhyrchiad effeithiol yn medru goresgyn hyn fel y profodd y cynhyrchiad o Bobi a Sami Wil Sam Jones a’r cynhyrchiadau o waith Beckett.

Ac fe deimlais ar y cyfan bod hwn yn gynhyrchiad o’r fath.

Un o gynyrchiadau gorau’r Theatr Genedlaethol oedd Bobi a Sami yn fy marn i ac wrth lwyfannu’r ddrama hon efallai roedd y cwmni’n ceisio ail adrodd ei lwyddiant wrth gyfleu byd di-dostur a chymeriadau ar yr ymylon.

Mae’r Gofalwr yn ymwneud a’r berthynas sy’n datblygu rhwng Aston , dyn sy a nam meddyliol , trempyn o’r enw Davies sy’n cael ei wahodd gan Aston i aros yn ei stafell, a Mic, brawd Aston sy’n berchen ar y tŷ. Wrth i ‘r tri ymateb ac ymwneud a’i gilydd mewn mae’r ddrama drasigomig hon yn datgelu ei phrif themâu yn eu plith natur gormes a chreulondeb o fewn ein perthynas a’n gilydd , hunandwyll ac ansicrwydd.

Gan ei fod yn ddrama ag iddi elfennau abswrdaidd a realaidd , sy’n troi ar y berthynas a’r sgwrs rhwng y tri chymeriad digon llithrig hyn, mae llwyddiant y cynhyrchiad yn ddibynnol iawn ar y cast. Yr actor a lwyddodd orau i gyfleu hanfod ei gymeriad mewn ffordd gynnil a chrefftus oedd Rhodri Siôn. Roedd ei bortread o’r Aston bregus yn dawel rymus. Roedd y llais undonog di-emosiwn a’r osgo awgrymog yn uchelseinio’i drasiedi yn effeithiol, heb or-actio gan achosi bod ei araith fawr yn ail hanner y perfformiad, sy’n uchafbwynt emosiynol yn y ddrama, wedi cyfareddu’r gynulleidfa. Roedd cyffyrddiadau bach i’w berfformiad -fel dilyn a symud yn anghyfforddus o rhy agos at Davies yn yr hanner gyntaf er enghraifft - hefyd yn effeithiol wrth awgrymu personoliaeth ddrylliedig Aston.

Mae Llion Williams yn gyson wedi rhoi perfformiadau hynod yng nghynyrchiadau’r Theatr Genedlaethol ac unwaith eto wrth wylio’r cynhyrchiad hwn fe anghofiais i fy mod i’n gwylio actor ar lwyfan. Mae e’n feistrolgar o gorfforol fel actor - ei wisg a’i brops yn llwyr ran o’i berfformiad ac fe atseiniodd yn fy meddwl am ddyddiau wedyn. Gweithiodd y rwtîn Becketaidd enwog o daflu Bag Davies nôl a mlaen rhwng y cymeriadau yn dda, yn bennaf gan fod Llion Williams yn actor corfforol mor arbennig. Wedi dweud hyn roedd yr elfen afiach yng nghymeriad Davies ar goll braidd, yr elfen fygythiol sy mor ganolog i’r gwaith cyfan. Roedd y portread yma o Davies yn ennyn gormod o dosturi - hyd yn oed wrth i ni dystio i’w ymgais ffiaidd i fradychu Aston a’i wawdio.

Fodd bynnag, y portread o Mic oedd yn bennaf gyfrifol am ddiffyg min y cynhyrchiad ar brydiau. Roedd perfformiad Carwyn John ar un lefel ac yn llithro i ystrydeb - ac o ganlyniad fe gollwyd haenau’r cymeriad. Roedd angen mwy o ymdeimlad o freuddwydion Mic ond yr hyn a gafwyd oedd portread rhy syml - a chwerthinllyd braidd o ran ei ystumiau corfforol - o fwli anniddorol.

Roedd yr iaith yn naturiolaidd ac yn rhywiog a chyfieithiad Elis Gwyn yn taro’r nod wrth gyflwyno byd a naws y cymeriadau i’r gynulleidfa. Roedd cyfieithu “He’s a real joker” i “Un digri ydi o” er enghraifft yn cyfoethogi ystyr eironig y llinell. Mae ‘digri’ yn y Gymraeg yn medru meddwl od yn ogystal â doniol ac o’r herwydd fe ymatebodd y gynulleidfa yn syth i’r awgrym yma. Ond efallai nad oedd cadw’r cyfeiriadau i’r lleoliadau Seisnig, er mor enwog yw’r cyfeiriad i Sidcup erbyn hyn, mor effeithiol yn y cyfieithiad. Fe deimlais hefyd y collwyd y ceinder arddull sy’n nodweddu deialog Pinter gan na adawyd i’r seibiau enwog ledu eu malais a’u hansicrwydd yn ddigonol.

Mae cynhyrchiadau’r Theatr Genedlaethol wedi dod yn adnabyddus bellach am safon eu setiau. Yma eto roedd y set yn un cain a thrawiadol - y pentyrrau o focsys yn cyfleu clawstroffobia'r ystafell sy’n fagl ac yn garchar, ond hefyd yn noddfa, a’r llawr ar oleddf yn creu’r sail ansicr angenrheidiol i’r ddrama. Roedd y gerddoriaeth hefyd yn effeithiol yn ei chynildeb oedd yn ddigonol i beri awyrgylch annifyr.

Un feirniadaeth sy wedi codi yn y drafodaeth ehangach am safon cynhyrchiadau’r Theatr Genedlaethol yw bod yna dueddiad i chwarae’n saff a theimlais fod yna rywbeth braidd yn ofalus am y cynhyrchiad hwn. Elfen hynod ddiddorol yn y ddrama hon yw bod yna awgrym cryf bod Davies yn Gymro : Rhywbeth y mae sawl beirniad wedi ei nodi yn y gorffennol ac y mae Lyn Ebenzer yn ei ffordd ddihafal o ganfod cysylltiadau Cymreig wedi llwyddo i olrhain mewn erthygl yng Nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon. Efallai y gellid fod wedi defnyddio’r ansicrwydd ynglŷn â hunaniaeth sy’n deillio o’r awgrym hwn er mwyn dweud rhywbeth penodol a pherthnasol iawn wrth gynulleidfa Gymraeg. Byddai hynny efallai wedi rhoi gwedd newydd ar berthnasedd oesol y themâu.

Yn ôl yr adolygiadau, mae’r cynhyrchiad presennol yn Llundain gyda’r Cymro Jonathan Pryce yn chwarae rhan Davies yn pwysleisio ei genedligrwydd - a defnyddio hynny’n uniongyrchol er mwyn taflu goleuni ar ei natur amddiffynnol sy efallai’n ganlyniad o’i ymdeimlad o alltudiaeth ac israddoldeb. Mae’n wedd sy wedi bod yn esgus hyfryd i rai rhoi mynegiant i’r hen ystrydebau a rhagfarnau sy’n amlwg yn dal i gorddi dan yr wyneb :

Yn ôl adolygydd y Telegraph, Charles Spencer, “Sly Wheedling Welshman” yw Davies
ac mae Quentin Letts yn ei adolygiad yntau yn y Daily Mail - dan y pennawd “That’s why the Welsh weasel is a tramp” - yn dweud :
“This weasel of a man, part runt, part leech, part fearful, part braggart, is more often played with a southern English accent. Having heard Mr Pryce's version, you wonder how anyone ever made the mistake of not playing him Welsh. “

Mae yna’n sicr haen awgrymog yma i’w chloddio o safbwynt cynhyrchiad Cymraeg.
Mae rôl y gofalwr yn un sy’n awgrymu ffigwr fel yr Wncwl Tom Americanaidd, yn symud o gwmpas yn twtio ar ôl ei feistri. Wn i ddim i ba raddau y mae'r Cymry wedi chwarae rôl o’r fath ar y llwyfan Saesneg ond o Fluellen Shakespeare i Uncle Bryn Gavin a Stacey, ffigyrau sy’n cynnig math o ‘light relief’ ymylol i’r brif stori yw’r Cymro. Ond mae Gofalwr Pinter yn ffigwr gwahanol iawn. Dyma Taffy fel y snichyn dan din ar yr un llaw, ond ar y llall efallai mai dyma Taffy’n gwrthod chwarae ei rôl draddodiadol, yn ceisio troi’r sefyllfa i’w ddibenion ei hun. Diddorol fyddai cynhyrchiad Cymraeg o’r ddrama hon fyddai’n defnyddio Davies fel modd o archwilio effeithiau seicolegol trefedigaethedd y Cymry. Efallai bod y ffaith i’r cynhyrchiad wneud i mi feddwl am hyn yn awgrymu y bu’n gynhyrchiad llwyddiannus - ond dwi’n credu hefyd bod modd i oblygiadau’r ddrama hon fod yn wahanol iawn mewn cyd-destun Cymraeg.

Roedd hwn yn gynhyrchiad amserol nid yn unig am ei bod yn dilyn marwolaeth Pinter yn 2008 - ond hefyd am ei bod yn cael ei lwyfannu ar gyfnod o ddirwasgiad. Efallai y teimlais i hynny’n fwy byw gan nad o’n i’n gweld y cynhyrchiad hwn ym moethusrwydd Theatr y Sherman neu Ganolfan Taliesin Abertawe neu Theatr y Werin Aberystwyth ond mewn canolfan a godwyd yn wreiddiol er mwyn rhoi lle i ddiwylliant ym mywydau gweithwyr cyffredin . Dyma’r cysylltiad rhwng perfformiad a lleoliad sy’n amlwg yn cael ei gyfri’n bwysig a dadlennol gan gwmni’r National Theatre Wales ar hyn o bryd. Mae’r cynhyrchiad yn ei gyfanrwydd yn llwyddo cyfleu sut mae tri chymeriad yn cael eu cynnal a’u twyllo gan eu dyheadau wrth orfod gorthrymu ei gilydd. Cafwyd blas digon effeithiol o’r tywyllwch a’r hiwmor sy’n graidd i’r gwaith hwn ac roedd gan y cynhyrchiad ddigon i’w ddweud wrthon ni’r Cymry.