Dewislen
English
Cysylltwch

Hedd Wyn oedd y bugail-fardd a ddaeth i fod yn symbol o’r genhedlaeth a gollwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Bu farw Ellis Evans (1887 – 1917), oedd yn adnabyddus dan yr enw barddol Hedd Wyn, yn ystod Rhyfel Passchendaele. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw 1917 gyda’r gerdd ‘Yr Arwr’ sawl wythnos yn dilyn ei farwolaeth. Gorchuddiwyd y Gadair â mantell ddu pan ddatgelwyd y trasiedi yn ystod y seremoni.

Yn rhyfeddol, cerfiwyd y Gadair Ddu – fel mae’n cael ei hadnabod heddiw – gan Eugeen Vanfleteren, ffoadur rhyfel o Fflandrys. Bydd y gadair wreiddiol yn cael ei harddangos yn Yr Ysgwrn, fferm deuluol y bardd, sydd bellach yn cael ei redeg gan Barc Cenedlaethol Eryri.

I ddysgu mwy am Yr Ysgwrn, ewch i: www.yrysgwrn.com


 

RHYFEL

Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng,
A Duw ar drai ar orwel pell;
O’i ôl mae dyn, yn deyrn a gwreng,
Yn codi ei awdurdod hell.

Pan deimlodd fyned ymaith Dduw
Cyfododd gledd i ladd ei frawd;
Mae swn yr ymladd ar ein clyw,
A’i gysgod ar fythynnod tlawd.

Mae’r hen delynau genid gynt
Ynghrog ar gangau’r helyg draw,
A gwaedd y bechgyn lond y gwynt,
A’u gwaed yn gymysg efo’r glaw.

— Hedd Wynn

Nôl i Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss