Dewislen
English
Cysylltwch
Mae Llenyddiaeth Cymru yn cydlynu Ffrindiau Darllen yng Nghymru. Mae Ffrindiau Darllen yn rhaglen gyfeillio a ddyfeisiwyd gan The Reading Agency ac a ariannir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Wedi’i gyflwyno mewn partneriaeth â llyfrgelloedd cyhoeddus, cymunedau lleol a sefydliadau gwirfoddol, bwriad y cynllun yw galluogi, cyfranogi ac ymgysylltu pobl hŷn a phobl sydd â dementia a Gofalwyr trwy sbarduno sgyrsiau wrth ddarllen. Caiff Reading Friends ei gyd-gynhyrchu gyda phobl hŷn, a’i gyflwyno gan wirfoddolwyr.

Ers gaeaf 2019, mae Llenyddiaeth Cymru’n gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Llyfrgelloedd Conwy, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Llyfrgelloedd Aura yn Sir y Fflint, a Llyfrgelloedd Caerdydd, i gyflwyno Ffrindiau Darllen mewn amrywiaeth o leoliadau ledled Cymru.

Bydd Ffrindiau Darllen Conwy, sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect ers ei ddechrau yn 2017, yn ehangu o Gartref Gofal Llys Elian, sy’n arbenigo mewn dementia, i ysgolion a Chanolfan Ddiwylliant newydd Conwy. Mae ymweliadau un i un a drefnir yng nghartrefi’r cyfranogwyr hefyd yn golygu bod modd cyrraedd ymhellach at y rhai sydd heb fynediad at gludiant. Sgoriwyd mynediad at wasanaethau yn ardaloedd mwyaf gwledig y sir ymhlith y gwaethaf yng Nghymru (MALIC, 2019), ac felly mae Ffrindiau Darllen yn achubiaeth ar gyfer y rhai sydd fwyaf tebygol o brofi ynysu cymdeithasol.

Mae Ffrindiau Darllen Abertawe yn ehangu i Ysbytai Treforys a Chastell-nedd Port Talbot, ar ôl blwyddyn gyntaf lwyddiannus ar wardiau 3, 6 a 7 yn Ysbyty Singleton, gan weithio mewn partneriaeth â changen Gwirfoddoli gan Fyfyrwyr Prifysgol Abertawe, Discovery, a rhaglen wirfoddoli’r ysbyty. Gall y wardiau fod yn lle prysur ond unig, ac felly mae Ffrindiau Darllen wedi bod yn hollbwysig wrth gefnogi cleifion i “ddod o’u cregyn a chael sgwrs am rywbeth heblaw am feddyginiaeth”, yn ôl nyrs ar Ward 7.

Ers fis Awst a mis Medi 2019, mae Llyfrgelloedd Aura yn Sir y Fflint a Llyfrgelloedd Caerdydd wedi dechrau prosiectau Ffrindiau Darllen yn eu hawdurdodau lleol nhw. Mae Llyfrgelloedd Aura ar agor ym Mrychdyn, Bwcle, Cei Connah, Glannau Dyfrdwy, y Fflint, Treffynnon a’r Wyddgrug, gyda llyfrgell symudol yn gwasanaethu gweddill y sir. Ar hyn o bryd, maen nhw’n gobeithio integreiddio rhaglen Ffrindiau Darllen i’w harlwy gwirfoddoli. Mae Llyfrgelloedd Caerdydd yn cynnwys 19 Llyfrgell a Hwb Cymunedol ledled y ddinas, ac ar ôl hyfforddi nifer o swyddogion, maen nhw’n edrych ymlaen at gael dechrau’n fuan.

Mae’r prosiect Ffrindiau Darllen yn dod o dan golofn strategol Cyfranogi Llenyddiaeth Cymru, ac o fewn hynny, ei nod yw targedu pobl sydd ag anableddau neu salwch hirdymor (meddyliol a chorfforol). Mae Llenyddiaeth Cymru yn ymroddedig i ddefnyddio darllen creadigol i gyfrannu at iechyd corfforol a meddwl cadarnhaol. Er mwyn darllen yr ymchwil y tu ôl i’r datganiadau, cyhoeddodd Demos eu hadroddiad comisiwn, ‘A Society of Readers’ ym mis Hydref 2018, ac mae ar gael yma.

Am ragor o wybodaeth am y cynllun canolog, ewch i wefan Ffrindiau Darllen; cofrestrwch ar gyfer cylchlythyr Ffrindiau Darllen, neu cysylltwch â ni.

Nôl i Ein Prosiectau