Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd

Cyhoeddwyd Mer 5 Hyd 2016 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Her 100 Cerdd
Am hanner nos wrth iddi droi yn ddydd Iau 6 Hydref, mewn tŷ clyd ger Castell Deudraeth, bydd pedwar bardd dawnus yn dechrau ar y dasg enfawr o gyfansoddi a chyhoeddi 100 o gerddi gwreiddiol mewn 24 awr – ydi, mae Her 100 Cerdd yn dychwelyd.

Eleni mae Llenyddiaeth Cymru wedi herio’r beirdd Aneirin Karadog, Anni Llŷn, Gwyneth Glyn a Twm Morys i ymgymryd â’r dasg uchelgeisiol, ac mae’r pedwar wedi penderfynu dod at ei gilydd o dan yr un to er mwyn ei chwblhau.

Darllenwch ragor am y beirdd yma.

Mae gan y pedwar bardd a dderbyniodd yr her eleni rywbeth yn gyffredin – maent oll yn eu tro wedi teithio i bob cwr o Gymru yn lledaenu cariad at farddoniaeth yn eu rôl fel Bardd Plant Cymru.

Dyma’r pedwerydd tro i’r Her 100 Cerdd gael ei chynnal, a gyda’r tri thîm blaenorol o feirdd yn llwyddo i’w chyflawni eiliadau yn unig cyn hanner nos, tybed beth fydd hanes Aneirin, Anni, Gwyneth a Twm? Mae’r beirdd a dderbyniodd yr her dros y blynyddoedd diwethaf yn cynnwys Eurig Salisbury, Hywel Griffiths, Elan Grug Muse, Gruffudd Antur, Casia Wiliam a Llŷr Gwyn Lewis, ac ymysg y 300 cerdd a gyhoeddwyd, cafwyd cerddi serch a cherddi dychan, cerddi’n cyfarch babanod newydd a rhai’n moli lleoliadau, cerdd am ddiet a dwy gerdd ar y thema ‘ffrwchnedd’.

Dyfeisiwyd y prosiect digidol hwn yn 2012 i nodi Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth, dathliad blynyddol o farddoniaeth a phopeth barddonol a drefnir gan y Forward Arts Foundation, elusen sy’n dathlu barddoniaeth rhagorol a sydd â’r bwriad o ehangu’r gynulleidfa. Yn 2014 cafwyd dros 10,000 o ymweliadau i flog Her 100 Cerdd, ac fe anfonwyd cannoedd o negeseuon yn cynnwys yr hashnod #Her100Cerdd ar Twitter a Facebook.

Mae croeso i’r cyhoedd anfon awgrymiadau a cheisiadau am themâu a phynciau i’r beirdd. Gallwch wneud hynny ar Twitter (#Her100Cerdd, @LlenCymru), ar dudalen Facebook Llenyddiaeth Cymru, neu trwy anfon neges atpost@llenyddiaethcymru.org.

Gallwch ddarllen y cerddi wrth iddynt gael eu cyhoeddi yn fyw ar Flog Llenyddiaeth Cymru

 

Uncategorized @cy