Dewislen
English
Cysylltwch

Mae gan Gymru dreftadaeth lenyddol heb ei hail yn Gymraeg a Saesneg ill dau. Dyna ichi feirdd fel Dafydd ap Gwilym, Gillian Clarke a Dylan Thomas; awduron plant fel Roald Dahl a T Llew Jones; y nofelwyr cyfoes Caryl Lewis, Cynan Jones ac Owen Sheers; heb sôn am chwedlau rhyfeddol a byw y Mabinogi.

Y nod yw dangos y gorau o lenyddiaeth, diwylliant a mythau Cymru, a hynny yn yr union fannau a ysgogodd ac a ysbrydolodd y rheini. Bydd Gwlad y Chwedlau yn tywys ymwelwyr ar deithiau hudolus, gan eu cyflwyno i’r straeon a’r cymeriadau sydd wedi creu’r wlad. Mae llwybr Alice in Wonderland yn Llandudno, tirlun diwydiannol trawiadol y Cymoedd, a hanesion fampiriaid Llanilltud Fawr ymhlith y cannoedd o atyniadau llenyddol sydd wedi’u rhoi ar y map drwy wefan ‘Gwlad y Chwedlau’.

 

 

Gan weithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Cymru, Amgueddfa Cymru ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Eryri, Arfordir Penfro a Bannau Brycheiniog, bydd y map o straeon Cymru yn arwain ymwelwyr ar deithiau i weld llecynnau cudd yn ogystal â mannau mwy cyfarwydd. Bydd y cyfan wedi’i seilio ar ddewisiadau’r ymwelwyr wrth edrych ar hanesion am gestyll arswydus, tywysogion arwrol ac angenfilod rhyfedd.

Mae’r rhain yn ymddangos o dan ddeg thema sy’n sôn am ddŵr, brwydrau, yr iaith, llên gwerin, llefydd cysegredig, y Brenin Arthur, plentyndod, ysbrydion, diwydiant a rebeliaid. Ceir ym mhob categori ddwsinau o lefydd sy’n gysylltiedig â straeon, nofelau a mythau rhyfeddol, gan roi syniadau hefyd am lefydd i fwyta ac yfed, am lwybrau i’w crwydro ac am fannau i aros ynddynt.

Gall ymwelwyr bori drwy’r map, gan ddewis llefydd sy’n cyd-fynd â’u hobïau a’u diddordebau. Unwaith y byddant yn fodlon â’u dewis – dewis sy’n cynnwys adfeilion eglwysi ac ogofâu cudd, llwybrau coediog, tafarndai a mynyddoedd – byddant yn cael cynllun taith personol drwy e-bost, sy’n golygu bod antur lenyddol unigryw yn cael ei chreu bob tro.

Ehangwyd Gwlad y Chwedlau yn 2017 ar gyfer prosiect Cymru Ryfedd a Rhyfeddol, gan gynnwys taith o amgylch chwe safle treftadaeth a gosod murlun 50 troedfedd o uchder ar y Tŵr Dŵr rhestredig Gradd II yng Ngorsaf Caerdydd Canolog.

Nôl i Ein Prosiectau