Dewislen
English
Cysylltwch

Os gwelwch yn dda darllenwch feini prawf cymhwysedd Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn fanwl.


ANGENRHEIDIOL
:

  1. Mai gwaith unigol yr awdur yn unig ydyw (ag eithrio darluniau a chyflwyniadau).
  2. Mai’r cyhoeddiad cyntaf o’r gwaith (naill ai yn Gymraeg neu Saesneg) yn y flwyddyn sy’n rhagflaenu’r wobr ydyw (1 Ionawr – 31 Rhagfyr 2020).
  3. Rhaid i’r awdur fod yn fyw ar 2 Rhagfyr sef dyddiad cau cyflwyno’r llyfr i Llenyddiaeth Cymru.
  4. Bod cynnwys y gwaith, yn sylweddol, yn waith na gyhoeddwyd yn flaenorol.
  5. Bod y gwaith yn gyfrol o farddoniaeth, ffuglen neu ffeithiol greadigol (wele nodyn ar dudalen 3), NEU fod y gwaith ar gyfer plant a phobl ifanc ac wedi’i fwriadu ar gyfer darllenwyr hyd at 16 oed.
  6. Bod y gwaith mewn print o’r diwrnod y rhyddheir y Rhestr Fer tan y caiff yr enillwyr eu cyhoeddi yn y seremoni wobrwyo.
  7. Bod y gwaith a gyflwynir i’r categorïau Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol-Greadigol ar gyfer oedolion.
  8. Rhaid cyflwyno’r gwaith i un categori yn unig, a rhaid cyflwyno gwaith a gyhoeddir yn ddwyieithog i’w ystyried mewn un iaith yn unig.

 

YN OGYSTAL, RHAID IDDO ATEB O LEIAF UN O’R GOFYNION CANLYNOL:

  1. Fod wedi’i ysgrifennu yn Gymraeg
  2. Fod wedi’i ysgrifennu yn Saesneg gan awdur a anwyd yng Nghymru neu a dderbyniodd ei addysg yng Nghymru
  3. Fod wedi’i ysgrifennu yn Saesneg gan awdur sy’n byw yng Nghymru
  4. Fod yn gwbl eglur o ran ei berthnasedd i Gymru a’r diwylliant Cymreig (diffiniad ar dudalen 3)

 

NID YW’R CANLYNOL YN GYMWYS AR GYFER Y WOBR:

  1. Gwaith a gyhoeddir o fewn blodeugerddi gan awduron niferus
  2. Cyfieithiadau ac addasiadau (oni bai y dyfarnir eu bod o bwysigrwydd sylweddol i lenyddiaeth Gymraeg sydd yn mynd ymhellach na’r hyn sydd yn bodoli o fewn fersiynau o’r deunydd gwreiddiol eisoes)
  3. Sgriptiau, sgript ffilm a llyfrau lluniau

 

 

DIFFINNIR Y CATEGORÏAU FEL: 

a. Barddoniaeth

Casgliad o waith newydd gan un awdur, ac wedi’i fwriadu ar gyfer oedolion

b. Ffuglen

Llyfr newydd gan un awdur ac wedi’i fwriadu ar gyfer oedolion, croesawir pob genre ffuglen.

c. Ffeithiol Greadigol

Caiff y categori ffeithiol greadigol ei ddiffinio fel rhyddiaith sydd naill ai’n greadigol o ran natur neu sy’n cysylltu’n amleiriog â gweithiau ffuglen, ffeithiol a barddoniaeth eraill. Mae hyn yn cynnwys gweithiau lle mae creadigrwydd rhyddiaith yn ganolog i natur y gwaith. Ymhlith y mathau o lyfrau y GALLAI ddod o dan faen prawf o’r fath mae ysgrifennu teithiol, nofel graffig, hunangofiant/cofiant a hanes cymdeithasol. Mae gweithiau beirniadaeth lenyddol yn gymwys i’w hystyried os ydynt, neu y gellir dadlau’n argyhoeddedig eu bod, yn berthnasol i Gymru neu ddiwylliant Cymru.

ch. Plant a Phobl Ifanc

Rhaid i geisiadau i’r categori Plant a Phobl Ifanc gwmpasu’n bennaf o gynnwys llenyddol yn hytrach na darluniadol. Rhaid iddo hefyd fod wedi’i fwriadu ar gyfer darllenwyr hyd at 16 oed. Mae ffuglen, barddoniaeth a ffeithiol greadigol i gyd yn gymwys a rhaid iddynt fodloni’r meini prawf a fanylir yn a, b & c uchod, ag eithrio oedran y darllenydd.


Diffiniad o waith sy’n gwbl eglur o ran ei berthnasedd i Gymru a’r diwylliant Cymreig

Ar rai achlysuron, gellir penderfynu bod gweithiau sy’n trafod ac/neu sy’n ychwanegu at themâu a ymdrinnir â nhw yn aml mewn meysydd llenyddol Cymreig yn gymwys er nad oes gan yr awdur unrhyw gysylltiadau ieithyddol, preswyl na llencynnol â Chymru.

 

Llenyddiaeth Cymru sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau terfynol ar faterion yn ymwneud â’r meini prawf. Bydd penderfyniadau yn derfynol. Os oes gennych unrhyw amheuaeth am gymhwysedd llyfr ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru:
029 2047 2266 | LLYF-WBOTY@llenyddiaethcymru.org

Nôl i Gwobr Llyfr y Flwyddyn