Dewislen
English
.

Gwobr Ffeithiol Greadigol

Meddyginiaethau Gwerin Cymru, Anne Elizabeth Williams (Y Lolfa)

Mae’r gyfrol hon wedi’i seilio’n bennaf ar dystiolaeth lafar a gasglwyd gan yr awdur rhwng 1976 ac 1989 pan oedd ar staff Amgueddfa Werin Cymru. Bu’n cofnodi atgofion to hynaf y boblogaeth ledled Cymru am y meddyginiaethau gwerin yr oeddynt yn gyfarwydd â hwy yng nghyfnod eu plentyndod, ac mae’r atgofion hyn yn rhoi darlun unigryw o un agwedd ar fywyd y werin yn negawdau cynnar yr 20fed ganrif.

Addysgwyd ANNE ELIZABETH WILLIAMS yn Ysgol Dyffryn Nantlle, Pen-y-groes, a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Ar ôl graddio yn y Gymraeg, aeth ymlaen i ddilyn cwrs Diploma mewn Palaeograffeg a Gweinyddu Archifau ac i gwblhau Doethuriaeth ar Gwilym Tew, bardd o’r 15fed ganrif, a’i lawysgrif, Peniarth 51. Ar ôl cyfnod yn Archifdy Caernarfon, symudodd i Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, i ymchwilio ym maes Meddyginiaethau Gwerin. Wedi hyn, bu’n gweithio fe cyfieithydd annibynnol am dros ugain mlynedd hyd ei hymddeoliad. 

Blodau Cymru: Byd y Planhigion, Goronwy Wynne (Y Lolfa)

Cyflwyniad sydd yma i fyd y blodau, eu hanes, a hanes y rhai a fu’n chwilio amdanynt. Trafodir eu henwau, eu dosbarthiad a’u cynefinoedd. Sonnir am ecoleg y planhigion – y rhai cyffredin a’r rhai prin, a gofynnir pam fod y peth a’r peth yn tyfu yn y fan a’r fan.

Ystyrir y coed a’r rhedyn – a hyd yn oed y chwyn! Trafodir sut mae’r planhigion yn tyfu ac yn “gweithio” a gofynnir pam fod rhai creaduriaid yn bwyta planhigion a pham fod rhai planhigion yn bwyta creaduriaid! Sonnir am y llysiau llesol a’r rhai gwenwynig, a mentrwn i fyd y DNA.

Ar ôl edrych ar holl gynefinoedd y blodau, a sut i fynd ati i’w mwynhau, byddwn yn ymweld â phob un o hen siroedd Cymru – o Fôn i Fynwy – ac yn disgrifio rhyw 10 safle ym mhob sir, gyda’u nodweddion a’u blodau arbennig, a sut i ddod o hyd iddynt a’u gwerthfawrogi.

Dyma gyfrol i’r athro a’r myfyriwr, i’r arbenigwr ac i’r dyn cyffredin, ac i bob Cymro sy’n mwynhau byd y blodau.

Ar ôl graddio ym Mangor mewn Amaethyddiaeth a Botaneg bu GORONWY WYNNE yn dysgu am gyfnod yn ei hen ysgol yn Nhreffynnon, yna yn Brif Ddarlithydd mewn Bioleg yn Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru. Derbyniodd raddau doethor o Brifysgol Cymru a Phrifysgol Salford. Y mae’n Gymrawd o Brrifysgol Bangor ac o Gymdeithas Lineaidd Llundain, a bu’n Gofnodydd i Gymdeithas Fotaneg Prydain ac Iwerddon am 40 mlynedd. Bu hefyd yn olygydd “Y Naturiaethwr” i Gymdeithas Edward Llwyd am ddeng mlynedd, ac yn 2014 derbyniodd Fedal Wyddoniaeth yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ar Drywydd Niclas y Glais, Hefin Wyn (Y Lolfa)

Brodor o’r Preselau oedd T. E. Nicholas ond daeth i amlygrwydd yn ystod ei ddeng mlynedd o weinidogaeth ym mhentre’r Glais, Cwm Tawe. Roedd yn gyfaill i Keir Hardie, a Niclas draddododd ei bregeth angladdol yn Siloam, Aberdâr a chynnig am ei sedd seneddol adeg y Rhyfel Byd Cyntaf.

Fe’i carcharwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd a thra oedd yn rhannu cell gyda’i fab Islwyn, yng ngharchardai Abertawe a Brixton, aildaniwyd ei yrfa farddonol.

Roedd yn gomiwnydd diedifar a byddai’n dannod y frenhiniaeth a chyfalafiaeth bob gafael. Roedd hefyd yn ddarlithydd ac yn ddeintydd.

O gyfuno’r elfennau hyn ffurfiwyd colsyn eirias o gymeriad a anwylodd ei hun i’r genedl. Manteisiodd yr awdur ar lythyrau personol sy’n gadwedig yn y Llyfrgell Genedlaethol ac ar dystiolaeth nifer o ddisgynyddion Niclas i lunio’r portread yn y gyfrol hon.

Dyma’r cofiant cyflawn cyntaf i Niclas y Glais a gyda chyhoeddi’r gyfrol mae Hefin Wyn yn cwblhau trioleg am wyr mawr Sir Benfro – yn dilyn cofiant i Waldo Williams ac i Meic Stevens.

Brodor o ardal Crymych, Sir Benfro, yw HEFIN WYN. Ef oedd gohebydd adloniant Y Cymro yn y 70au. Mae bellach yn newyddiadurwr ar ei liwt ei hun ac yn byw gyda’i deulu ym mhentre Mot ger Maenclochog.

Nôl i Gwobr Llyfr y Flwyddyn