Dewislen
English
.

Rhestr Fer Gwobr Farddoniaeth

Llif Coch Awst
, Hywel Griffiths 
(Cyhoeddiadau Barddas)

Teulu, tirwedd, dŵr a daear – dyna’r elfennau sy’n dal y gyfrol hon ynghyd. Dyma gyfrol bersonol am berthynas, am bobol, ac am berthynas pobl a’u tir, a’u cynefin gyda nifer helaeth o’r cerddi yn y casgliad yn gerddi caeth. Mae’r bardd hefyd yn bwrw golwg smala ar gymdeithas yr unfed ganrif ar hugain, yn ogystal â thwrio i ganol chwedlau a dylanwad gweithiau gyda’r hynaf yn ein llenyddiaeth ar ein hymwybod fel cenedl. 

Mae HYWEL GRIFFITHS yn uwch-ddarlithydd yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth. Enillodd y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch 2008 a’r gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2015.  Y mae’n dalyrnwr ac ymrysonwr a chyhoeddodd eisoes ddwy gyfrol o gerddi – un i blant a’r llall i oedolion, yn ogystal â nofel i blant yn eu harddegau. Y mae ei gartref yng Nghererdigion, yn ogystal â’i wreiddiau yn Sir Gaerfyrddin yn aml yn dylanwadu ar ei waith, fel y mae ei fydolwg fel daearyddwr.

Treiglo
, Gwyneth Lewis 
(Cyhoeddiadau Barddas)

Fel ym mhob cyfrol o farddoniaeth Gymraeg gyhoeddwyd Gwyneth Lewis, mae’r iaith yn fater sy’n cael sylw, a hynny mewn ffordd ogleisiol a difrifol yr un pryd. Mae’r thema ‘Treiglo’ yn archwilio rhychwant eang o bosibiliadau – o ystyriaethau ieithyddol, fel mae iaith yn newid mewn cyd-destun gwahanol ac yn wir fel mae pobl a pherthynas pobl hefyd yn newid mewn gwahanol gyd-destun. Mae gan y gyfrol hon elfennau hunangofiannol cryf wrth i’r bardd fyfyrio ar oes o berthynas rhyngddi hi a’i thad, gan ystyried misoedd, wythnosau a dyddiau olaf ei fywyd. Yn fwy na hynny, mae’n ymdrin â galar. Yn ei ffordd ddihafal a dychmygus ei hun, mae Gwyneth Lewis yn pwyso a mesur y newidiadau ddaw yn rhan o fywydau pob un ohonom.

GWYNETH LEWIS oedd Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru yn ôl 2005 ac y mae ei geiriau enwocaf i’w gweld ar flaen Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd. Enillodd Goron Eisteddfod Bro Morgannwg yn 2012. Mae’n awdur sydd wedi cyhoeddi yn Gymraeg ac yn Saesneg gan ddod i’r brig yn y ddwy iaith gyda’i chyfrolau barddoniaeth (cyhoeddodd wyth cyfrol eisoes). Cafodd Gwyneth ei magu yng Nghaerdydd, ac yno y mae wedi ymgartrefu, er ei bod yn teithio’n helaeth ac yn gweithio dramor fel darlithydd gwadd ers sawl blwyddyn. Y mae hefyd yn cynnal gweithdai barddoniaeth yng Nghymru yn y ddwy iaith. 

Caeth a Rhydd, 
Peredur Lynch 
(Gwasg Carreg Gwalch)

Ceir yn y gyfrol hon drawstoriad o gerddi sy’n cwmpasu’r dwys, yr ymholgar, y dathliadol, y gwamal a’r ffraeth. Mae rhai o’r cerddi’n perthyn i brif ffrwd y traddodiad mawl Cymraeg, ond ynddynt fe geir hefyd finiogrwydd cyfoes a beiddgarwch meddwol. Mae crefft y gynghanedd yma ar ei gloywaf ynghyd â’r gallu i lefaru’n gofiadwy a thyner o fewn disgyblaeth y canu clasurol. Yma hefyd fe geir enghreifftiau o lefaru yr un mor huawdl y tu hwnt i rwymau’r gynghanedd. 

Brodor o Garrog yn yr hen Sir Feirionnydd yw PEREDUR LYNCH, yr ieuengaf erioed i gipio cadair Genedlaethol yr Urdd ym Maesteg yn 1979. Ar ôl Graddio yn y Gymraeg ym Mangor bu’n Gymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth (1985-90) ac yna’n ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe (1990-95). Dychwelodd i Fangor yn ddarlithydd yn 1995 lle mae bellach yn Athro. 

Nôl i Gwobr Llyfr y Flwyddyn