Dewislen
English
.

Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2017

Gwobr Farddoniaeth

'Chwilio am Dân' gan Elis Dafydd (Cyhoeddiadau Barddas)

Cerddi gan fardd ifanc am y profiadau sy’n cyffwrdd i’r byw ac sy’n cynrychioli llais cenhedlaeth. Mae’r gyfrol yn cynnwys ‘Gwreichion’ – cerdd a gyfansoddwyd yn ystod cyfnod refferendwm yr Alban ac a ddaeth yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd 2015.

Bardd o Drefor, wrth droed yr Eifl, ym Mhen-Llŷn yw Elis Dafydd ac mae’n fyfyriwr ymchwil yn Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2015 yng Nghaerffili gyda’i gerdd ‘Gwreichion’. Roedd hefyd yn un o’r beirdd ifanc wnaeth gymryd rhan yn Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru yn 2013. Mae’n cyfrannu’n rheolaidd at gyhoeddiadau megis Barddas ac yn ymrysonwr ac yn dalyrnwr. Mae wedi cyd-olygu cyfrol ar ganeuon gwleidyddol diweddar, Rhywbeth i’w Ddweud: 10 o ganeuon gwleidyddol 1979-2016 (Barddas).

'Llinynnau' gan Aled Lewis Evans (Cyhoeddiadau Barddas)

Mae’r llinynnau sy’n cysylltu pob un ohonom mor hanfodol ac eto, weithiau, yn hynod o fregus: teulu, bro, iaith a ffydd … llinynnau sy’n ein cynnal, ac o bryd i’w gilydd yn ein carcharu. Dyma gasgliad o gerddi am glymau perthyn.

 

Awdur o Wrecsam yw Aled Lewis Evans. Cyhoeddodd doreth o lyfrau dros y blynyddoedd i blant ac oedolion, yn rhyddiaith a barddoniaeth. Amheus o Angylion oedd y gyfrol ddiwethaf o farddoniaeth iddo ei chyhoeddi i Farddas, a hynny yn 2011. Mae Aled yn Diwtor Cymraeg i Oedolion wrth ei waith bob dydd ac yn bregethwr lleyg; mae’n cyflwyno darlleniadau o’i waith yn rheolaidd i amryw byd o gymdeithasau a grwpiau llenyddol.

'Bylchau' gan Aneirin Karadog (Cyhoeddiadau Barddas)

Casgliad o gerddi sy’n myfyrio ar y bylchau a adewir gan golled bersonol a chyhoeddus, a cholled i iaith a diwylliant, ac am yr hyn sy’n tyfu yn y bylchau hynny drachefn. Mae rhai o’r cerddi hefyd wedi eu hysbrydoli gan deithiau barddol o amgylch Cymru wrth i’r bardd gwrdd â gwahanol gynulleidfaoedd, a chan ei gysylltiadau teuluol â Llydaw. Trwy’r cyfan mae perlau gobaith a gwerthfawrogiad o’r hyn sy’n bwysig i’r bardd yn disgleirio.

 

Dyma’r ail gyfrol o gerddi i oedolion i’r bardd toreithiog Aneirin Karadog ei chyhoeddi. Cyhoeddwyd O Annwn i Geltia  yn 2012 – cyfrol a enillodd iddo Wobr Categori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2013. Yn Brifardd Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni 2016, ac yn gyn-Fardd Plant Cymru, mae Aneirin hefyd yn adnabyddus fel darlledwr a pherfformiwr. Ar hyn o bryd mae’n fyfyriwr ymchwil yn Academi Hywel Teifi lle mae’n astudio ar gyfer doethuriaeth sy’n edrych ar ‘Beth yw perthynas y bardd â’i gynulleidfa ac a yw’r berthynas hon yn dylanwadu ar lais y bardd er gwell neu er gwaeth?’.

Gwobr Ffuglen

'Ymbelydredd' gan Guto Dafydd (Y Lolfa)

Beth sy’n digwydd pan fo’n rhaid i ŵr ifanc o dref fach yng Ngwynedd dreulio chwe wythnos ym Manceinion ar gyfer cwrs o radiotherapi? Cawn yn y nofel hon ddarlun o fywyd trwy lygaid claf rhif 24609-3740. Nofel arobryn Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 2016.

 

Mae Guto Dafydd yn adnabyddus fel bardd ac awdur. Yn enedigol o Drefor, mae’n byw ym Mhwllheli gyda’i wraig, Lisa, a’u plant, Casi a Nedw. Mae’n mwynhau trafod llenyddiaeth o flaen pob math o gynulleidfaoedd – mewn festrïoedd a thafarnau, ar y teledu a’r radio, ar-lein ac mewn print.

Ar ôl bwrw’i brentisiaeth mewn eisteddfodau lleol, enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd yn 2013, cyn ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2014 a chyhoeddi cyfrol o gerddi, Ni Bia’r Awyr, sy’n archwilio’r berthynas rhwng pobl, eu treftadaeth, a’u tir. Cyhoeddodd nofel, Stad, yn 2015, cyn ennill Gwobr Goffa Daniel Owen yn 2016 am Ymbelydredd, nofel hunan-ffuglennol sy’n seiliedig ar ei brofiad o gwrs radiotherapi ym Manceinion.

'Iddew' gan Dyfed Edwards (Gwasg y Bwthyn)

Nofel hynod o bwerus sy’n ein dwyn i ganol bywyd cythryblus Yeshua bar-Yôsep Natz’rat (Iesu fab Joseff o Nasareth), a’i daith i’r Groes. Meddai Dewi Prysor am y nofel wefreiddiol hon, ‘Dyma nofel ysgubol ac eithriadol iawn; gwaith o athrylith sy’n gwthio ffuglen Gymraeg i dir newydd.’

 

Magwyd Dyfed Edwards ym mhentref Rhosmeirch ar Ynys Môn. Yn gyn-newyddiadurwr, mae bellach yn awdur llawn amser ac yn byw yn Whitstable, Swydd Caint. Mae wedi cyhoeddi nofelau Cymraeg a Saesneg ac wedi ennill y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith.

'Y Gwreiddyn' gan Caryl Lewis (Y Lolfa)

Straeon yn ymwneud â natur, perthynas dyn â’i gyd-ddyn, henaint, cariad a cholled sydd yma. Mae pob stori, fel y stori deitl, yn mynd i’r afael â chnewyllyn perthynas pobl â’i gilydd.

 

Mae Caryl Lewis yn byw ym mhentref Goginan ger Aberystwyth gyda’i gŵr a’u tri o blant. Mae wedi ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn am ddwy o’i nofelau – Martha Jac a Sianco yn 2005 ac Y Bwthyn yn 2016. Enillodd wobr Tir na n-Og ddwywaith. Y Gwreiddyn yw ei hail gyfrol o straeon byrion yn dilyn Plu a gyhoeddwyd yn 2008. Enillodd wobr driphlyg gyda’i nofel Y Bwthyn yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn 2016.

Gwobr Ffeithiol Greadigol

'Optimist Absoliwt' gan Menna Elfyn (Gwasg Gomer)

Hanes bywyd y bardd Eluned Phillips (1915-2009), yr ail wraig i ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol, camp a gyflawnodd ddwywaith (yn 1967 a 1983). Cofleidiodd y bywyd bohemaidd, gan deithio i Lundain a Pharis, ac ymhlith ei chydnabod yr oedd Augustus John, Dylan Thomas, Édith Piaf, Jean Cocteau, Maurice Chevalier a Pablo Picasso.

 

Mae Menna Elfyn yn fardd arobryn sydd wedi cyhoeddi dros 20 gyfrol o farddoniaeth, dramâu, libreti ac ysgrifau teithio. Mae’n newyddiadurwraig, yn wneuthurwr ffilm ac ymgyrchydd diflino dros hyrwyddo’r iaith Gymraeg. Mae ei gwaith wedi cael ei astudio ar gyfer TGAU, Lefel A ac ar gyrsiau Prifysgol yng Nghymru ac America.

'Gwenallt' gan Alan Llwyd (Y Lolfa)

Portread o fardd gwrthryfelgar ac o lenor aflonydd a geir yn y cofiant hwn. Mae ynddo ddeunydd newydd sbon, gan gynnwys tua thrigain o gerddi o waith Gwenallt na welsant olau dydd erioed o’r blaen, llythyrau dadlennol iawn ganddo at ei ddau gyfaill pennaf, Albert Davies a B J Morse, a thystiolaeth bendant ddiymwad ynghylch union amgylchiadau carcharu Gwenallt adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. Dyma gofiant cynhwysfawr a chaboledig, a hynod ddadlennol, i un o feirdd mwyaf Cymru.

 

Bardd, awdur a sgriptiwr ffilmiau yw Alan Llwyd. Fe’i ganwyd yn Llan Ffestiniog, Gwynedd lle bu’n byw nes oedd yn bump oed, yna symudodd i fferm yng Nghilan, Pen Llŷn. Astudiodd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Bu’n gweithio fel golygydd amser-llawn gyda Barddas, cylchgrawn y bu’n gyfrifol am ei sefydlu gyda Gerallt Lloyd Owen.

Enillodd y Gadair a’r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhuthun 1973, ac eto yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi 1976, dim ond yr ail fardd i wneud hynny yn hanes yr Eisteddfod.

Mae’n awdur toreithiog, gyda sawl cyfrol o farddoniaeth a beirniadaeth wedi eu cyhoeddi.). Yn ddiweddar mae wedi cyhoeddi cyfres o gofiannau gan gynnwys Kate (2011), Bob (2013), Waldo (2014) ac Hedd Wyn (2014). Ysgrifennodd y sgript am y ffilm Hedd Wyn (1992)

'Cofio Dic' gan Idris Reynolds (Gwasg Gomer)

Cyfrol o atgofion am y prifardd a’r cyn-archdderwydd, Dic Jones, un o feirdd mwyaf ail hanner yr ugeinfed ganrif. Roedd Idris Reynolds yn o gyfeillion Dic, a thrw ei atgofion ohono down i wybod ychydig mwy am y dyn o dan yr wyneb a chael cip hefyd ar y gymdeithas a’r amgylchiadau a fowldiodd ei awen.

 

Mae Idris Reynolds yn un o brifeirdd amlwg Cymru gyfoes, yn byw ym Mrynhoffnant, yng Ngheredigion ac mae’n darlithio ar awen Dic Jones o gwmpas y wlad. Mae Idris yn gyn-lyfrgellydd ac yn cystadlu’n rheolaidd ar Dalwrn y Beirdd, Radio Cymru. Mae wedi ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru dwywaith.

Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias

'Psalmody' gan Maria Apichella (Eyewear)

Mae’r gyfrol hon yn trafod cariad a ffydd yn y byd modern. Mae’r gyfrol yn trafod perthynas dynes grefyddol ag anffyddiwr ac mae’r cymeriadau yn cael eu cysylltu â’r Salmydd a’r Brenin Hen Testamentaidd, Dafydd. Mae’r cerddi yn daearu cynnwys holl drosiadau’r Salmau – erotiaeth, mawl, cwestiynu, buddugoliaeth, amheuon a naturoliaeth – yn y Gymru fodern.

 

Mae Maria Apichella wedi cwblhau ei PhD mewn Ysgrifennu Creadigol Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bellach mae’n dysgu ym Mhrifysgol Maryland, University College, Ewrop. Enillodd ei phamffled, Paga, Wobr Pamffled Gwasg Cinnamon yn 2014 ac mae Psalmody wedi cyrraedd rhestr fer Forward Prize 2017 yng nghategori’r casgliad gyntaf.

'What Possessed Me' gan John Freeman (Worple)

Gan ddeffro atgofion plentyndod a pherthnasau oes gyda hiwmor, dwyster a chlirdeb allnaturiol, mae What Possessed Me yn archwilio’r byd naturiol a thirwedd yn Lloegr, Cymru, Ffrainc a Groeg. Ceir yma ddylanwad Edward Thomas, Dannie Abse a Jack Gilbert. Ceir darnau yn dathlu ymweliadau ag Eglwys Gadeiriol Llandaf ac Athens. Dyma gyfrol sy’n amrywiol ei theimladau a phynciau ond sy’n cael ei uno gan agwedd agored tuag at y foment a llawenydd a thristwch bywyd.

 

Ganed John Freeman yn Essex, magwyd yn ne Llundain a bu fyw yn Swydd Efrog cyn ymgartrefu yng Nghymru ble bu’n dysgu Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’n byw ym Mro Morgannwg. What Possessed Me yw ei unfed gasgliad ar ddeg.


'The Other City' gan Rhiannon Hooson (Seren)

Casgliad cyntaf o gerddi Rhiannon Hooson, bardd ifanc sy’n byw ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae ei chyfrol The Other City yn cynnig cerddi urddasol a chain yn llawn manylder a threiddgarwch, boed hynny mewn golygfeydd o chwedloniaeth Roegaidd neu hanes Cymru yn ogystal â cherddi am berthynas bersonol.

 

Ganed Rhiannon Hooson yng nghanolbarth Cymru yn 1979 ble bu’n byw nes iddi symud i ogledd Lloegr yn 1998. Astudiodd a dysgodd ym Mhrifysgol Caerhirfryn. Derbyniodd Wobr Eric Gregory gan y Society of Authors yn 2008.

Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies

'Pigeon' gan Alys Conran (Parthian)

Mae Iola a Pijin yn dyfeisio straeon er mwyn profi ei gilydd: straeon o antur a heriau, o bobl ddrwg a Gwyn sy’n gyrru’i fan hufen ia i fyny’r allt i’w tref bob wythnos. Mae Gwyn yn ddyn peryglus fel y gwybu Pijin ond dydy Iola ddim yn siŵr. Wrth iddynt dyfu fyny mae eu cyfeillgarwch yn tyfu’n gymhleth, mae rhai o’i straeon yn mynd ar goll ond eraill yn dod yn wir. Mae Pigeon yn daith drwy atgofion anesmwyth plentyndod ac yn stori am obaith a phŵer iaith.

 

Mae gwaith Alys Conran wedi cyrraedd rhestrau hirion a byrion sawl cystadleuaeth gan gynnwys The Bristol Short Story Prize, The Manchester Fiction Prize ac The International Dylan Thomas Prize. Astudiodd ar gyfer gradd MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caeredin ac wedi arwain gweithdai ysgrifennu creadigol ymhlith grwpiau ymylol yng Ngogledd Cymru. Mae wedi derbyn ysgoloriaeth er mwyn ysgrifennu ei hail nofel.

'Cove' gan Cynan Jones (Granta)

Mewn storm sydyn ar y môr, caiff y prif gymeriad ei daro gan fellten. Wedi iddo ddihuno, yn anafus ac yn arnofio’n ddigyfeiriad ar gaiac, nid yw’n cofio pwy ydyw na beth ddigwyddodd iddo.

 

Ganed Cynan Jones yn Aberaeron yn 1975 ac mae’n parhau i fyw yn yr ardal. Mae ei nofelau hyd yma yn cynnwys The Long Dry (enillydd Gwobr Betty Trask, 2007), Everything I found on the Beach (2011), Bird, Blood, Snow (2012) sy’n addasiad o un o chwedlau’r Mabinogion, a The Dig (enillydd categori ffuglen Llyfr y Flwyddyn 2015). Ym mis Hydref 2017 enillodd Cynan y BBC National Short Story Award am ei stori ‘The Edge of the Shoal’.

'Ritual, 1969' gan Jo Mazelis (Seren)

Casgliad o straeon byrion hiraethus gyda llinyn gwibiog, arallfydol, gan yr awdures arobryn Jo Mazelis.

 

Mae Jo Mazelis yn awdur straeon byrion, barddoniaeth a gwaith ffeithiol. Cyrhaeddodd ei chasgliad Diving Girls (2002) rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2003. Cyrhaeddodd ei hail lyfr, Circle Game Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2006. Mae ei barddoniaeth a’i straeon wedi eu darlledu ar Radio 4 ac wedi ymddangos mewn sawl casgliad ac antholeg. Mae Ritual, 1969 wedi cyrraedd rhestr hir Gwobr Straeon Byrion Edge Hill 2017. Ganed ac addysgwyd yn Abertawe, bu’n byw ac yn gweithio yn Llundain fel dylunydd graffeg cyn symud yn ôl i Abertawe yn 1991.

Gwobr Ffeithiol Greadigol Saesneg

'The Black Prince of Florence' gan Catherine Fletcher (The Bodley Head)

Mae The Black Prince of Florence yn adrodd hanes Alessandro de’ Medici sy’n llawn brad, ysbiwyr a lladd. Dyma gyflwyniad i fywyd didrugaredd yr Eidal yn ystod cyfnod y Dadeni Dysg.

 

Mae Catherine Fletcher yn hanesydd ac yn arbenigo ar y Dadeni Dysg ac Ewrop yn ystod y cyfnod modern cynnar. Pwnc ei llyfr cyntaf, The Divorce of Henry VIII, oedd y llys Pabyddol yng nghyfnod y Tuduriaid. Yn sgil hyn, gweithiodd Catherine ar gynhyrchiad y BBC o Wolf Hall gan Hilary Mantel gan eu cynghori ynghylch manylion hanesyddol, seremonïau crefyddol, gwisgoedd a chelfi. Mae’n aml yn darlledu am y Dadeni Dysg ar Radio 4 ac mae’n BBC New Generation Thinker ar hyn o bryd. Mae’n gweithio fel Athro Cysylltiol yn yr adran Hanes ym Mhrifysgol Abertawe.

'The Tradition' gan Peter Lord (Parthian)

Yn y gyfrol hon mae Peter Lord yn olrhain esblygiad diwylliant gweledol Cymru o gyfnod y Dadeni Dysg hyd at ddiwedd yr Ugeinfed Ganrif. Wedi ei ysgrifennu at bawb sydd â diddordeb yng nghelf a hanes Cymru, mae’r gyfrol yn darlunio tua 400 o dirluniau a phortreadau, printiau a cherfluniau. Mae’r awdur yn esbonio sut bu i’r gwaith celf ddod o’i chyd-destun Cymreig a beth oedd eu cysylltiadau â diwylliannau eraill. Dyma’r unig gyfrol mewn print sy’n cwmpasu holl gelf weledol Cymru.

 

Ganed Peter Lord yng Nghaerwysg ond bellach mae’n byw ger Aberystwyth. Bu’n gweithio fel cerflunydd gan weithio ar sawl cerflun cyhoeddus megis Cofeb Hywel Dda yn Hendy-gwyn. Ers 1948 mae wedi canolbwyntio ar ysgrifennu am ddiwylliant celf weledol Cymru ac wedi cyhoeddi deuddeg llyfr ar y pwnc gan gynnwys y gyfrol driphlyg  The Visual Culture of Wales sef y gwaith pwysicaf ar y pwnc. Yn 1999 cyflwynodd rhaglen ddogfen saith pennod ar y pwnc dan y teitl The Big Picture i BBC Cymru. Mae wedi darlithio ar gelf o Gymru yn Yr Almaen a’r Unol Daleithiau pan roedd yn ysgolhaig ar ymweliad â Chanolfan Gelf Brydeinig ym Mhrifysgol Yale.


'Jumpin’ Jack Flash' gan Keiron Pim (Vintage)

David Litvinoff oedd un o gymeriadau mwyaf lliwgar Llundain yn y 60au. Roedd yn gysylltiedig â’r byd cerddorol, celf a throsedd, roedd wedi dylanwadu ar yr efeilliaid Kray, roedd yn adnabod The Rolling Stones, wedi llunio plot y ffilm Performance a pheintiodd Lucian Freud bortread ohono. Canlyniad dros 100 o gyfweliadau yw’r cofiant yma i David Litvinoff gan Keiron Pim ac mae’r cofiant yn adrodd datblygiad Litvinoff ymysg aristocratiaid, gangsters a sêr roc.

 

Mae Keiron Pim yn 38, yn briod a chanddo tair o ferched ifanc ac yn byw yn Norwich. Bu’n gweithio am ddegawd fel golygydd llenyddol i’r Eastern Daily Press cyn gadael y swydd er mwyn canolbwyntio ar ysgrifennu. Ef yw awdur The Bumper Book of Dinosaurs (Square Peg) a golygydd a chyflwynydd Into the Light: the Medieval Hebrew Poetry of Meir of Norwich, sef y cyfieithiad cyntaf o waith unig fardd Hebreig Lloegr yn y Canol Oesoedd.

Nôl i Gwobr Llyfr y Flwyddyn