Dewislen
English
Cysylltwch
Tŷ Newydd yw Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru a gaiff ei rhedeg gan Llenyddiaeth Cymru. Ers agor ein drysau yn 1990, mae miloedd o awduron wedi camu dros drothwy ein drws gwyrddlas eiconig.
Ar y 26 Hydref 2023, lansiodd Llenyddiaeth Cymru Dy Bennod Nesaf – rhaglen amrywiol o gyrsiau ac encilion ysgrifennu creadigol i’ch helpu i ddod â’ch straeon a’ch syniadau yn fyw. Porwch drwy’r rhestr cyrsiau ar dudalen Tŷ Newydd.

Ein harbenigedd yw trefnu encilion a chyrsiau ysgrifennu creadigol preswyl. Rydym yn croesawu grŵp newydd i’n cartref bob wythnos – yn gymysgedd unigryw o unigolion o Gymru, y Deyrnas Unedig, a phob cwr o’r byd. Maent yn treulio amser gyda’i gilydd dan arweiniad awduron proffesiynol, yn cymryd rhan mewn gweithdai a thiwtorialau un-i-un, yn mwynhau darlleniadau, ac yn ymhyfrydu yn awyrgylch hyfryd ac ysbrydoledig Tŷ Newydd. Mae cyfranogwyr yn rhoi help llaw yn y gegin, lle mae prydau cartref blasus yn cael eu paratoi gyda chynhwysion lleol, gan ein cogydd preswyl.

Mae ein rhaglen yn cynnwys amrywiaeth eang o gyrsiau preswyl ac encilion – yn y Gymraeg a’r Saesneg – mewn amryw o genres a themâu, yn cynnwys barddoniaeth, ffuglen, ffeithiol-greadigol, sgriptio, ysgrifennu am fyd natur, dylunio, adrodd straeon, yoga a mwy.

Rydym yn dewis ein tiwtoriaid a’n siaradwyr gwadd yn ofalus, gan groesawu rhai o ymarferwyr gorau eu meysydd i Dŷ Newydd pob blwyddyn. Mae rhai o’n cyn-diwtoraid yn cynnwys Carol Ann Duffy, Gillian Clarke, Pascale Petit, Paula Meehan, Mark Cocker, Menna Elfyn, Patrick McGuinness, Kaite O’Reilly, Imtiaz Dharker, Niall Griffiths, Daljit Nagra a Malachy Doyle.

Waeth be’ mae neb yn ddweud, mae Tŷ Newydd yn rhewi amser. Y mae’n sugno’r trugareddau a’r pethau o’n bywyd bob dydd a’u toddi’n ddim.. Mae’n benthyg i ni lyfrgell sy’n toddi’r dydd yn nos. Ac yn eu lle, mae Tŷ Newydd yn rhoi i ni anadl i greu. Lle felly ydi o. A diolch amdano.” – Karen Owen

Ein tŷ hanesyddol oedd cartref olaf y cyn Brif Weinidog David Lloyd George ac mae cyffyrddiadau cyfarwydd pensaer Portmeirion, Clough Williams-Ellis, a atgyweiriodd y tŷ iddo yn parhau i fod yn amlwg drwy’r safle. Mewn lleoliad tawel rhwng y mynyddoedd a’r môr, dyma’r man perffaith i encilio iddo a bod yn greadigol.

Yn ogystal â’n rhaglen o gyrsiau agored, cynigiwn gyrsiau pwrpasol ac unigryw i grwpiau addysgiadol, gan weithio gyda thiwtoriaid ac athrawon i lunio’r cwrs perffaith ar gyfer eu grŵp. Mae hefyd yn bosib llogi Tŷ Newydd yn breifat ar gyfer cwrs corfforaethol, priodas, gwyliau, neu achlysur arbennig.

Am ragor o wybodaeth am Dŷ Newydd, a’r hyn sy’n digwydd yno, ewch i: www.tynewydd.cymru