Dewislen
English
Cysylltwch
Ymunodd Llenyddiaeth Cymru, Parthian Books, a’r Wales Arts Review â Bee Books yn Kolkata, India yn 2017 ar gyfer prosiect llenyddiaeth newydd ar y cyd rhwng awduron o Gymru ac India, o dan y teitl Y Cwm, Y Ddinas, Y Pentref.

Gan gymryd y teitl o nofel glasurol Glyn Jones, The Valley, the City, the Village roedd y prosiect yn cefnogi tri awdur o Gymru a thri o India yn ymweld â’r naill wlad a’r llall, gan ganolbwyntio ar agweddau ar gymdeithas fodern y lleoliadau y cyfeirir atynt yn y teitl, a chymryd ysbrydoliaeth ganddynt i gyfansoddi barddoniaeth, rhyddiaith, blogiau a straeon.

Yn ystod mis Chwefror 2017, treuliodd tri awdur o Gymru gyfnod o dair wythnos yn India er mwyn mynychu Ffair Lyfrau Kolkata, cymryd rhan mewn digwyddiadau a phrosiectau amrywiol, a chydweithio â thri awdur o India, gan gynnwys Arunava Sinha, sy’n adnabyddus am gyfieithu llenyddiaeth Fengaleg. Yn ystod eu harhosiad, gwesteiwyd hwy gan y wasg Bee Books, sydd wedi lansio rhestr o ysgrifennu Ewropeaidd newydd dros India gyfan.

Dewiswyd tri awdur o Gymru i gymryd rhan yn y prosiect hwn: Natalie Ann Holborow, Siôn Tomos Owen a  Sophie McKeand. 

Cafodd cyfrol gyntaf Natalie Ann Holborow o farddoniaeth Suddenly You Find Yourself, ei lansio ddydd Sadwrn 4 Chwefror 2017 yn Ffair Lyfrau Ryngwladol Kolkata.

Siôn Tomos Owen yw awdur y casgliad dwyieithog Cawl a chyflwynydd y rhaglen ddogfen ar S4C, Pobol y Rhondda. Roedd yn darlunio, canu ac ysgrifennu fel rhan o’r prosiect.

Sophie McKeand oedd Awdur Ieuenctid Cymru 2016-18 a fu’n arwain cyfres o weithdai ar greadigrwydd i ysgolion Kolkata.

Yn ystod yr ymweliad bu’r tri awdur yn cyfrannu at flog creadigrwydd a gyhoeddwyd ar wefan Wales Arts Review.

‘And Suddenly You Find Yourself’ gan Natalie Ann Holborow. Dyma fideo swyddogol y prosiect a recordiwyd ac a olygwyd gan Siôn Tomos Owen. Mae’n nodi lansiad cyfrol Natalie yng Ngŵyl Lyfrau Kolkata.


Derbyniwyd grant hael gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chronfa India Cymru y British Council i ariannu’r prosiect. Mae Cronfa India Cymru yn fenter ar y cyd rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r British Council. Diben y gronfa yw cynorthwyo cydweithrediad a chyfnewid artistig rhwng gweithwyr creadigol proffesiynol a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru ac India a fydd yn meithrin rhwydweithiau a chydberthnasau cynaliadwy rhwng y ddwy wlad. Dyma’r unig brosiect llenyddol a ariennir yn y rownd honno o geisiadau.


Ym mis Mai/Mehefin 2017, ymwelodd yr awduron Indiaidd Aniesha Brahma, Srijato Bandyopadhyay ac Arunava Sinha â Chymru am dair wythnos. Yn ystod eu hymweliad buont yn perfformio ac yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan gynnwys:

  • Digwyddiad cyhoeddus uchel ei broffil yng Ngŵyl y Gelli
  • Digwyddiad yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd gyda’r awduron sy’n gysylltiedig â’r prosiect, yn ogystal ag awduron eraill o Gymru.
  • Gŵyl benwythnos yn Llansteffan gyda’r awduron sy’n gysylltiedig â’r prosiect a rhai o awduron Parthian.
  • Digwyddiad yn Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe.
  • Digwyddiadau yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd mewn cydweithrediad ag awduron o Gymru ac India ac aelodau o gymuned Indiaidd a’r Wales Arts Review.

 


Lansiwyd cylchgrawn arbennig yn dathlu Y Cwm, Y Ddinas, Y Pentref ar 26 Mai 2017, yn cynnwys cyfraniadau gan bob awdur. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

Nôl i Ein Prosiectau