Encilion

ENCILION I YSGRIFENWYR YN NHŶ NEWYDD

Yn ogystal â dod i Dŷ Newydd ar gwrs gallwch ddod yma ar encil. Bydd sgwenwyr eraill yn aros yn y tŷ a byddwch yn rhannu prydau bwyd gyda'r nos.

Cyfle i ddianc rhag bywyd bob dydd am ychydig ddyddiau a chanolbwyntio ar eich sgwennu neu’ch gwaith ymchwil, neu hyd yn oed wneud dim mwy na darllen ac ymlacio. A pha well lle i wneud hyn na’r tŷ hynafol yma â’i gyfleusterau newydd a hynny ynghanol tawelwch Eifionydd?

Nid cwrs yw encil, nid oes tiwtoriaid, ond bydd staff Tŷ Newydd yn gofalu amdanoch. Bydd pawb yn cael ystafell ei hun a bydd cyfle i gymdeithasu efo eraill tra’n cydfwyta pryd gyda’r nos.

Bydd pob unigolyn sy’n dod i Dŷ Newydd ar encil yn aros mewn ystafell sengl er mwyn cael llonyddwch i weithio, gyda phrydau bwyd yn cael eu paratoi ar eu cyfer.

Bydd dyddiadau encilion ar gyfer 2013 ar gael yn fuan.

I gofrestru cysylltwch â ni trwy e-bost – tynewydd@llenyddiaethcymru.org, ar y ffôn neu trwy gwblhau ffurflen gofrestru a’i dychwelyd ynghyd â’ch siec am £100 o flaendal neu’r tâl yn llawn at:
Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd. LL52 0LW
Ffôn 01766 522811

Yn anffodus nid oes unrhyw lefydd bwrsari ar gael ar Encilion Tŷ Newydd.
 

AFON FACH

Mae hefyd yn bosib ar rai adegau o'r flwyddyn i logi Afon Fach, bwthyn dwy lofft ar safle Tŷ Newydd er mwyn cael llonydd a heddwch i sgwennu.

Cysylltwch â ni am fanylion pellach. tynewydd@llenyddiaethcymru.org