Dewislen
English
Cysylltwch

Sefydliadau o Ddiddordeb

Celfyddydau Anabledd Cymru

Cyfeiriad: Sbectrwm, Bwlch Road, Fairwater, Caerdydd, CF5 3EF
Ffôn & ffôn Testun: 029 2055 1040
Ebost: post@dacymru.com
Gwefan: www.disabilityartscymru.co.uk

Disgrifiad o’r sefydliad:
Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn hyrwyddo, yn cefnogi ac yn eiriol dros artistiaid Anabl a B/yddar yng Nghymru.

Dyddiad sefydlwyd: 1982

Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

Cyfeiriad: Plas Bute, Caerdydd CF10 5AL
Ffôn: 029 2044 1320
Ffacs: 029 2044 1400
Ebost: info@wai.org.uk
Gwefan: www.wai.org.uk
Enw cyswllt: Nicola Morgan, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

Disgrifiad o’r sefydliad:
Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn hwyluso gweithio yn rhyngwladol yn y celfyddydau, a hynny drwy gydweithio, prosiectau, rhwydweithiau a chyfathrebu.

Dyddiad sefydlu: 1997

Cyfnewidfa Len Cymru

Cyfeiriad: Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant, Adran Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth, Aberystwyth SY23 3AJ
Ffôn: 01970 622544
Ffacs: 01970 621524
Ebost: post@cyfnewidfalen.org
Gwefan: waleslitexchange.org
Enw cyswllt: Nia Davies

Disgrifiad o’r sefydliad:
Cyffordd gyfieithu â’i chartref yn Aberystwyth yw Cyfnewidfa Lên Cymru sy’n cysylltu awduron, cyfieithwyr a chyhoeddwyr yng Nghymru a thramor.

Mae’n asiantaeth fechan sy’n ffenest rhwng Cymru a’r byd: yn hwyluso gwerthu hawliau cyfieithu, yn gweinyddu grantiau cyfieithu ar gyfer cyhoeddwyr, yn weithdy sy’n tynnu ynghyd awduron a chyfieithwyr, yn llyfrgell o gyfieithiadau, ac yn guradur digwyddiadau llenyddol rhyngwladol.

Mae cyfieithu llenyddol yn chwarae rhan hanfodol mewn ecoleg bregus. Mae parch at bobl a’u cyd-destun yn y byd yn hanfodol wrth gyfnewid diwylliant. Rydym yn ymdrechu i deithio mewn modd ymwybodol, gan holi’n gyson pam a sut.

Dyddiad sefydlwyd: 1998 (sefydlwyd o dan yr enw Llenyddiaeth Cymru Dramor)

Cyngor Celfyddydau Cymru

Cyfeiriad: Prif Swyddfa: Bute Place, Caerdydd CF10 5AL
Ffôn: 0845 8734 900 / 029 2044 1300
Ffacs: 029 2044 1400
Ebost: gwybodaeth@celf.cymru
Gwefan: www.celf.cymru

Disgrifiad o’r sefydliad:
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC) yn gyfrifol am noddi a datblygu’r Celfyddydau yng Nghymru. Mae CCC yn atebol i’r Cynulliad am y modd y caiff yr arian hwn ei wario. CCC sydd hefyd yn dosbarthu arian loteri ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru. CCC yw prif gefnogwr Llenyddiaeth Cymru.

Dyddiad sefydlu: 1994

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfeiriad: Castell Brychan, Aberystwyth, Ceredigion SY23 2JB
Ffôn: 01970 624 151
Ffacs: 01970 625 385
Ebost: castellbrychan@wbc.org.uk
Gwefannau: Mae Cyngor Llyfrau Cymru’n gweinyddu tair gwefan
Gwefan Corfforaetholwww.cllc.org.uk
Y Fasnach Lyfrau Arleinwww.wbti.org.uk
Gwales:  www.gwales.com

Disgrifiad o’r sefydliad:
Mae’r Cyngor Llyfrau’n gorff cenedlaethol, dan nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru, sy’n ganolbwynt i’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru. Y mae’n darparu nifer o wasanaethau arbenigol ym meysydd golygu, dylunio, marchnata a dosbarthu. Mae hefyd yn dosbarthu grantiau i gyhoeddwyr. Mae’n ymwneud llawer â hybu darllen a llythrennedd.

Sefydlwyd: 1961

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Cyfeiriad: Gwasanaeth Ymholiadau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3BU
Ffôn: 01970 632933
Ffacs: 01970 632551
Ebost:  gofyn@llgc.org.uk
Y We: www.llgc.org.uk

Disgrifiad o’r sefydliad:
Mae ganddi hawl i gasglu un copi am ddim o bob eitem brintiedig a gyhoeddir ym Mhrydain ac Iwerddon. Yn ogystal, mae yma gasgliad enfawr o lyfrau a phamffledi, cylchgronau a phapurau newydd, microffurfiau, effemera, a llu o ddeunydd electronig am Gymru a’r gwledydd Celtaidd. Ceir hefyd filoedd o lawysgrifau ac archifau, lluniau a ffotograffau, mapiau, recordiau sain a delweddau symudol.

Dyddiad sefydlu: 1907

Sherman Cymru

Cyfeiriad: Sherman Cymru, Ffordd Senghennydd, Caerdydd, CF24 4YE
Ffôn 029 2064 6900
Gwefan: www.shermancymru.co.uk

Disgrifiad o’r sefydliad:
Cwmni theatr ac ysgrifennu ar gyfer y llwyfan.
Bwriad Sherman Cymru yw i greu a chyflwyno theatr ragorol i’n cynulleidfaoedd – theatr sy’n uchelgeisiol, yn ddyfeisgar ac yn gofiadwy – ac i greu perthynas gref, atebol a chyfoethog gyda’n cymunedau.

Dyddiad sefydlu: 2007 (Ffurfiwyd pan unwyd Sgript Cymru a Theatr y Sherman).

Wales PEN Cymru

Cyfeiriad:
Wales PEN Cymru, d/o Cae Llo Brith, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd, LL52 0LW
Ebost: walespencymru@gmail.com
Gwefan: walespencymru.org

Llywydd: Menna Elfyn
Cyfarwyddwr: Sally Baker

Disgrifiad o’r sefydliad:
Un o 145 o ganolfannau PEN mewn dros 100 o wledydd ar draws y byd yw Wales PEN Cymru.  Mae’n gysylltiedig â PEN Rhyngwladol, prif lais llenyddiaeth ledled y byd.

Mae PEN yn hybu llenyddiaeth ac yn amddiffyn rhyddid mynegiant. Mae’n ymgyrchu ar ran ysgrifenwyr o bob cwr o’r byd sy’n cael eu herlid, eu carcharu, eu poeni neu’n dod yn destun ymosodiad oherwydd eu gwaith ysgrifennu.  Mae iddo bwyllgorau yn cynrychioli ysgrifenwyr yn y carchar, hawliau ieithyddol a chyfieithu, merched sy’n ysgrifennu ynghyd â phwyllgor heddwch.

Mae Wales PEN Cymru yn cynnig cyfle i awduron o Gymru ymuno â sefydliad rhyngwladol a pherthyn i gymuned fyd-eang sy’n brwydro dros ryddid mynegiant.

Mae aelodaeth yn agored i awduron, newyddiadurwyr, cyfieithwyr, golygyddion a myfyrwyr ysgrifennu creadigol, sydd yn cytuno ag amcanion siartr PEN.

Dyddiad sefydlwyd: 2014. Yn 80fed Cyngres Ryngwladol PEN yn Bishkek, Kyrgyzstan, fis Hydref 2014 cydnabyddwyd Wales PEN Cymru yn swyddogol fel Canolfan PEN.

WGGB - The Writers' Guild of Great Britain

Cyfeiriad (Swyddfa Genedlaethol): 1st Floor, 134 Tooley Street, London SE1 2TU
Ffôn: 020 7833 0777
Ebost:  admin@writersguild.org.uk
Gwefan: writersguild.org.uk

Disgrifiad o’r sefydliad:

Undeb lafur yw Undeb yr Ysgrifenwyr (Writers’ Guild of Great Britain). Mae’r undeb yn cynrychioli dros 2,000 o awduron sy’n ysgrifennu ar gyfer sawl cyfrwng gan gynnwys teledu, ffilm, radio, theatr, llyfrau a gemau cyfrifiadurol. Mae’r undeb yn negydu cytundebau a thelerau gyda darlledwyr a chyrff sy’n cynrychioli’r theatrau. Mae’r Undeb yn lobio ar nifer o faterion sydd o bwys i ysgrifenwyr yn y Cynulliad, San Steffan ac yn y Senedd Ewropiaidd. Mae’r Undeb yn cydweithio â’r undebau adloniant eraill ar faterion sy’n cyffredin i weithwyr llawrydd.

Yng Nhymru mae’r Undeb yn negydu yn uniongyrchol ar ran ysgrifenwyr gydag S4C a Pobol y Cwm. Mae cangen yr undeb yng Nghymru yn weithgar tu hwnt ac mae’n arwain ymgyrchoedd ar faterion megis dyfodol S4C, polisiau’r Cyngor Llyfrau a rhaglenni ysgriennu newydd y theatrau.

Ceir manylion cynrychiolydd cangen Cymru o’r Undeb ar brif wefan yr undeb.

Dyddiad sefydlwyd: 1959

Nôl i Gwybodaeth a Chyngor