Dewislen
English
.

I weld rhestr gyflawn o enillwyr Ysgoloriaethau i Awduron Llenyddiaeth Cymru (2011-2017), a wnewch chi islwytho’r ddogfen sydd ar waelod y dudalen hon.

 

Enillwyr Ysgoloriaethau 2017 – Bywgraffiadau

Mae Atinuke yn adroddwr straeon ac awdur i blant a anwyd yn Nigeria ond sydd bellach yn byw yng Nghymru. Mae’n fwyaf adnabyddus am ei chyfres ‘Anna Hibiscus’ sydd wedi’i lleoli mewn teulu amlddiwylliannol mewn metropolis prysur yn Affrica. Cyrhaeddodd ei chyfres ‘The No.1 Car Spotter’ y rhestr hir ar gyfer Gwobr Carnegie ddwywaith. Mae Atinuke hefyd yn perfformio chwedlau Affricanaidd hynafol. Gellid dod o hyd iddi naill ai’n cerdded drwy’r llaid ar ei thyddyn yng Nghymru neu’n teithio’r byd gyda’i llyfrau i blant a gyhoeddir yn y DU, yn yr Unol Daleithiau ac yn Siapan.

Magwyd a ganwyd Sarah Down-Roberts yn Llangeitho yng Ngheredigion. Mynychodd yr ysgol gynradd leol, Ysgol Uwchradd Tregaron cyn graddio yn Y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Wedi cael gradd meistr am draethawd ar lên gwerin aeth i weithio i wasanaeth teletestun Sbectel yn Llundain. Bu wedyn yn gynhyrchydd yn adran newyddion y BBC yng Nghaerdydd. Mae hi bellach yn byw yn Aberystwyth ac yn un o eiriadurwyr Geiriadur Prifysgol Cymru. Mae’n parhau i gynhyrchu rhaglenni annibynnol i Radio Cymru a gweithio’n achlysurol i wefan Cymru Fyw ac uned wleidyddol y BBC. Mae Sarah yn fam i Gwen ac yn wraig i John.

Mae Kat Ellis yn awdur i Oedolion Ifanc o Sir Ddinbych. Astudiodd Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion, wedyn aeth i weithio ym maes cyfathrebu a TG cyn i’r awydd i ysgrifennu ddal ei afael go iawn ynddi. Pan nad yw’n ysgrifennu, gellir dod o hyd i Kat fel arfer gyda’i chamera yn archwilio adfeilion a mynwentydd lleol. Cyhoeddwyd ei nofelau yn y DU a’r Unol Daleithiau, gan gynnwys Blackfin Sky, Breaker a Purge.

Daw Gareth Evans-Jones o Draeth Bychan ger Marian-glas, Ynys Môn. Graddiodd mewn Cymraeg ac Astudiaethau Crefyddol o Brifysgol Bangor yn 2012 cyn dilyn cwrs MA mewn Cymraeg ac Ysgrifennu Creadigol. Bellach, mae’n cwblhau traethawd PhD ar y cyd rhwng Ysgol y Gymraeg ac Ysgol Athroniaeth a Chrefydd, Prifysgol Bangor. Mae wedi cyhoeddi ychydig straeon byrion a llên meicro, yn ogystal â sgriptio dramâu ar gyfer Theatr Fach Llangefni a Chymdeithas Ddrama Gymraeg y brifysgol. Bu’n ffodus o ennill Coron Eisteddfod Môn 2016, Medalau Drama’r Eisteddfod Ryng-golegol 2012 a Chymdeithas Ddrama Cymru (2010 a 2012). Bydd Ysgoloriaeth Awdur Newydd yn ei alluogi i lunio’i nofel gyntaf. Cyfeiriad trydar: @GEvansJones

Gallwch ddod o hyd i Carys Glyn rhwng troed y Blorens ac afon Wysg yn nhref farchnad Y Fenni. Yno, mae’r fam a’r athrawes ysgol gynradd yn brysur yn casglu syniadau ar gyfer llyfrau i blant ac yn ceisio eu troi’n straeon y bydd plant yn eu mwynhau. Mae’n aelod o’r Golden Egg Academy a bydd Carys yn defnyddio ei Hysgoloriaeth i ddatblygu ei nofel gyntaf, stori ysbïo anturus i blant gradd ganol wedi’i lleoli yn ne Cymru. Mae’n awyddus iawn i ysgrifennu nofel a fydd yn gwneud i blant chwerthin yn uchel, gan ddatrys dirgelion cymhleth, mewn cyd-destun hollol Gymreig. @cazglyn

Mae Angela Graham, sy’n hannu o Ulster ac yn siarad Cymraeg, yn gynhyrchydd teledu a ffilmiau nodwedd, yn awdur sgrîn ac yn ddarlledwr radio. Mae’n cadeirio Grŵp Polisi’r Cyfryngau y Sefydliad Materion Cymreig a gynhyrchodd Archwiliad Cyfryngau Cymru, 2015 a hi’n sy’n gyfrifol am drefnu Uwchgynhadledd y Cyfryngau, Caerdydd. Mae’n diwtor prifysgol mewn Arfer Dogfennol ac yn hyfforddwr i’r diwydiant, ac mae ganddi ddiddordeb arbennig ym maes addysgu newyddiadurwyr ac yn y cyswllt rhwng academyddion ac ymarferwyr ym maes y cyfryngau. Ond ffuglen yw ei phrif ddiddordeb. Bydd yr Ysgoloriaeth yn ei galluogi i gwblhau casgliad o straeon byrion. @AngelaGraham8

Mae Damian Harvey yn byw yn Sir y Fflint ac wedi ysgrifennu llawer o lyfrau wedi’u hanelu at blant ysgol gynradd. Mae’n ymwelydd poblogaidd ag ysgolion a llyfrgelloedd ledled Prydain Fawr (a thramor) ac mae galw mawr am ymweliadau ganddo. Mae’n helpu plant i ysgrifennu ac yn eu hannog i wneud hynny ac yn cyflwyno sesiynau perfformiad rhyngweithiol, bywiog, o ddosbarthiadau Meithrin i Flwyddyn 6, wedi’u cynllunio i ennyn brwdfrydedd a chyffro ymhlith plant tuag at lyfrau, darllen ac ysgrifennu. Bydd Bwrsari Awduron Llenyddiaeth Cymru yn galluogi Damian i neilltuo’r amser i ymchwilio ac ysgrifennu llyfr mwy o faint i ddarllenwyr hŷn sy’n cyfuno ffuglen â ffeithiau hanesyddol. @damianjharvey / www.damianharvey.co.uk

Mae Paul Henry yn awdur chwe chasgliad o farddoniaeth, y cyrhaeddodd y casgliad diweddaraf, Boy Running, y rhestr fer ar gyfer Llyfr y Flwyddyn Cymru 2016. Yn hanu’n wreiddiol o Aberystwyth, dechreuodd farddoni drwy ysgrifennu caneuon ac mae’n un o Gymrodorion Ysgrifennu Prifysgol De Cymru. Mae wedi cyflwyno rhaglenni ar gyfer BBC Radio Wales, Radio 3 a Radio 4. Cynhwyswyd gwaith Paul mewn sawl blodeugerdd ac ailargraffwyd The Brittle Sea: New & Selected Poems yn ddiweddar gan Seren. www.paulhenrywales.co.uk

Yn dilyn ei darn ysgrifenedig cyntaf, ‘The Naughty Dog’ (a enillodd seren aur iddi yn ei hysgol gynradd ym Merthyr), aeth Liz Jones ymlaen i ysgrifennu dramâu a gweithiau ffeithiol greadigol, adolygiadau, straeon byrion ac eitemau newyddiaduraeth, yn amrywio o Take a Break i New Welsh Review. Ar hyd y ffordd, magodd ddwy ferch, ceisiodd newid y byd (gan fethu), gweithiodd mewn caffi/siop lyfrau, cymdeithas dai, ym maes datblygu cymunedol a dysgu gydol oes. Mae bellach yn un o Gymrodorion Addysgu Prifysgol Aberystwyth. Serch hynny, fel y sylweddolodd un bore, nid yw wedi ysgrifennu llyfr cyfan ar ei phen ei hun eto. Yn benderfynol o unioni’r sefyllfa, mae Liz bellach yn gweithio ar fywgraffiad o’r nofelydd, yr awdur sgriptiau, yr actor a’r impresario theatraidd anhygoel a adwaenwyd fel Oliver Sandys neu’r Iarlles Barcynska, sydd wedi mynd yn angof.

Mae Meirion Jordan yn fardd ac yn gerddor traddodiadol. Cynhwyswyd ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth, Moonrise (Seren, 2008), ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Forward am y Casgliad Cyntaf Gorau, ac ers hynny, mae wedi cyhoeddi dau lyfr barddoniaeth arall. Fel rhan o gynllun Versopolis, mae’n perfformio’n rheolaidd mewn digwyddiadau llenyddol yn Ewrop, a chyfieithwyd ei waith i sawl iaith Ewropeaidd. Ef oedd un o olygyddion cyntaf y cyfnodolyn Lighthouse, ac mae’n olygydd ac yn gyfarwyddwr gyda’r cyhoeddwr Gatehouse Press yn Norwich. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio ar ei nofel gyntaf, sydd wedi’i lleoli yng Nghymru a Ffrainc yn dilyn gwrthryfel Owain Glyndŵr.

Dechreuodd Lowri Larsen ysgrifennu storiau a gwneud lluniau i gyd fynd â nhw tra yn yr ysgol gynradd. Ar ôl graddio yn y Gymraeg o Aberystwyth, bu’n byw yn Iwerddon am naw mlynedd lle enillodd radd bellach mewn Ysgrifennu Creadigol yng Nhgoleg Prifysgol Dulyn. Cyhoeddwyd dwy stori o’i heiddo ‘The bird that gently moved’ (2013) a ‘The blackbird after the tiger years’ (2015). yn y Galway Review wedi iddi symud i fyw i’r ardal honno. Gweithiodd mewn amrywiaeth o swyddi gan gynnwys gweithio mewn caffi, ar stondin grefftau, mewn bar, mewn ffatri, mewn archfarchnad a bysgio efo chwiban. Dilynodd hefyd gyrsiau arlunio a cherddoriaeth draddodiadol Gwyddeleg. Bellach mae wedi dychwelyd i fyw yn ei thref enedigol – Caernarfon. Mae’n gobeithio defnyddio ei Hysgoloriaeth i Awduron i ddatblygu ei hysgrifennu a chael mwy o’i gwaith wedi ei gyhoeddi yn y dyfodol.

Mae Alan Llwyd yn Athro ymchwil yn Adran Gymraeg Prifysgol Abertawe, ac mae hefyd yn ymwneud â rhai o fodiwlau’r Adran, fel y cwrs Ysgrifennu Creadigol am y radd o MA. Mae’n awdur toreithiog, a rhwng 2011 a 2016, cyhoeddodd gyfres o gofiannau i rai feirdd a llenorion pwysicaf Cymru, gan ddechrau gyda’i gofiant dadleuol, ond aruchel ei glod, i Kate Roberts (2011), wedyn ei gofiannau i R. Williams Parry (2013), Waldo Williams (2014), Gwenallt (2016), a chyhoeddwyd hefyd fersiwn newydd sbon o’i gofiant i Hedd Wyn yn 2014. Yn 2015 cyhoeddwyd Cerddi Alan Llwyd: yr Ail Gasgliad Cyflawn 1990-2015. Yn 2018 cyhoeddir Gwlad o Gofebau, ei astudiaeth swmpus o agwedd y Cymry at y rhyfel Mawr ac o effaith y rhyfel hwnnw ar Gymru.

Mae Sophie McKeand yn fardd arobryn a hi yw Awdur Ieuenctid Cymru ar hyn o bryd. Cyhoeddwyd ei gwaith yn helaeth, gan gynnwys Poetry Wales, Dark Mountain a The Lonely Crowd. Mae’n perfformio’n rheolaidd ledled y DU (er enghraifft, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru a gyda Caught by the River) ac ymddangosodd ar lwyfan Gŵyl Lenyddiaeth Kolkata, India. Mae Sophie wedi creu dau bamffled barddoniaeth wedi’u pwytho â llaw, Prophecy: conversations with my Self a Hanes; ac wedi cydweithio ar ddau brosiect celfyddydol teithiol: Metaforestry: storïau o’r Gogs, a DRKMTR a gynhyrchwyd hefyd fel albwm a gafodd ei rhyddhau gan y label recordiau Drum With Our Hands. Cyhoeddir ei chasgliad newydd o farddoniaeth, Rebel Sun, gan Parthian Books ym mis Mehefin 2017. www.sophiemckeand.com

Mae Eve Moriarty yn fardd, perfformiwr a compère o Abertawe. Enillodd ail wobr yng Ngwobr Robin Reeves 2015 a chafodd ganmoliaeth uchel yng Ngwobr Terry Hetherington 2013. Cyhoeddwyd barddoniaeth, rhyddiaith a gwaith ffeithiol Eve yn helaeth mewn amrywiaeth o fformatau digidol a phrint, gan gynnwys sawl antholeg Cheval a How to Exit a Burning Building gan Parthian. Ochr yn ochr â gweithio ar ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth, Radium Girls, mae Eve yn gweithio’n llawn amser ym Mhrifysgol Abertawe, ei alma mater. Pan nad yw’n ysgrifennu nac yn gweithio, mae Eve yn hoff iawn o berfformwyr drag, ei phedair llygoden fawr ffansi ac ymgyrchoedd ffeminyddol. Mae’n trydar fel @eve_moriarty.

Enillodd casgliad straeon cyntaf Thomas Morris, We Don’t Know What We’re Doing (Faber & Faber) wobr Llyfr y Flwyddyn Cymru 2016, Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies a Gwobr Somerset Maugham. Dewiswyd y casgliad hefyd fel Llyfr y Flwyddyn gan The Guardian, The Irish Times, The Irish Independent a The Spectator. Mae Thomas yn byw yng Nghaerffili, lle mae’n gweithio ar ail lyfr.

Mae Holly Müller yn nofelydd, awdur straeon byr a cherddor sy’n byw yng Nghaerdydd. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, My Own Dear Brother, stori ffuglen hanesyddol wedi’i lleoli yn Awstria ar ôl y rhyfel, ledled y byd gan Bloomsbury. Mae wedi perfformio ei gwaith mewn digwyddiadau llenyddol, gan gynnwys Gŵyl y Gelli a Gŵyl Lenyddiaeth Cheltenham ac wedi ysgrifennu ar gyfer The Independent a The Guardian. Mae wrthi ar hyn o bryd yn gweithio tuag at PhD mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol De Cymru lle y gweithiodd fel tiwtor ysgrifennu creadigol am sawl blwyddyn. Mae Holly hefyd yn canu, yn cyfansoddi geiriau caneuon ac yn chwarae’r feiolin i’r band Hail! The Planes.

Ysgrifennodd Mike Parker y llyfr poblogaidd Map Addict, er mwyn dathlu carwriaeth oes â’r map diymhongar, a’r llyfr dilynol clodwiw The Wild Rover.  Ef hefyd yw awdur Mapping the Roads, Coast to Coast, Neighbours From Hell?, Real Powys, The Greasy Poll: Diary of a Controversial Election ac roedd yn gyd-awdur ar bum cyfrol gyntaf y Rough Guide to Wales.  Ysgrifennodd a chyflwynodd saith cyfres o flogiau teithio ar gyfer ITV Wales, mae wedi gweithio ar sawl rhaglen deledu a radio arall ac o bryd i’w gilydd, mae’n perfformio fel digrifwr ac actor. Mae Mike yn byw ger Machynlleth.

Mae Karen Phillips yn awdur llawrydd a anwyd ac a fagwyd yn Sir Benfro. Ar ôl byw dramor yn Nhwrci a Mecsico am ddegawd, dychwelodd i Gymru yn 2014. Mae Karen yn ysgrifennu gwaith ffuglen gydag elfen o realaeth hudol, a gwaith ffeithiol naratif ar deithio, iechyd merched a bywyd y tu hwnt i fywyd bob dydd. Yn 2016, cafodd ganmoliaeth uchel yng nghystadleuaeth ‘Travel Writing’ y New Welsh Review am ei thraethawd hir ar yr Yucatan. Yn ogystal ag ysgrifennu, mae Karen yn blymiwr ac yn ffotograffydd profiadol ac yn arbenigo mewn delweddau tanddwr ac arfordirol. Ei gwefan yw www.kirazlivillage.com ac mae ganddi gyfrif Twitter @KirazliKoy

Mae Ben Rawlence wedi gweithio fel golchwr llestri, nani, awdur areithiau gwleidyddol, ymchwilydd hawliau dynol a newyddiadurwr. Nid oes croeso iddo yn Eritrea nac Ethiopia. Ef yw awdur Radio Congo: Signals of Hope from Africa’s Deadliest War (2012) a City of Thorns: Nine Lives in the World’s Largest Refugee Camp (2016). Mae’n byw yn ardal y Mynydd Du gyda’i deulu.

Mae Manon Rhys yn falch o arddel ei gwreiddiau yng Nghwm Rhondda a Cheredigion. Bu’n ennill ei bywoliaeth am flynyddoedd drwy sgriptio cyfresi teledu fel Pobol y Cwm ac Y Palmant Aur. Mae hi’n awdur nifer o gyfrolau rhyddiaith, gan gynnwys y nofel Rara Avis, a gyrhaeddodd restr fer Llyfr y Flwyddyn 2006, a Neb ond Ni, a enillodd iddi’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 2011. Hi oedd Bardd Coronog Eisteddfod Maldwyn a’r Gororau yn 2016. Bu’n feirniad, yn diwtor creadigol ac yn gydolygydd y cylchgrawn llenyddol Taliesin am ddeng mlynedd. Wedi treulio cyfnodau mewn sawl ardal o Gymru, mae hi’n byw ers dros ddeng mlynedd ar hugain yng Nghaerdydd, gyda’i gŵr, Jim Parc Nest.

Ganwyd Rachel Trezise yn y Rhondda yn 1978 ac mae’n byw yno o hyd. Astudiodd ym Mhrifysgolion Morgannwg a Limerick.  Cafodd ei nofel gyntaf In and Out of the Goldfish Bowl ei chynnwys ar Restr Orange Futures yn 2001, ac enillodd ei chasgliad cyntaf o straeon ffuglen byr Fresh Apples Wobr Ryngwladol Dylan Thomas yn 2006. Enillodd ail gasgliad Rachel o straeon Cosmic Latte Wobr Edge Hill Readers’ Choice yn 2014 ac enillodd ei drama lwyfan gyntaf Tonypandemonium Wobr Beirniaid Theatr Cymru am y Cynhyrchiad Gorau yn Saesneg yn 2014. Mae wrthi’n gweithio ar ddrama a gwaith ffuglen newydd ar hyn o bryd.

 

Enillwyr Ysgoloriaethau i Awduron 2011-2017

Enillwyr Ysgoloriaethau i Awduron 2011-2016
Iaith: WelshMath o Ffeil: PDF
Literature Wales Writers' Bursary Recipients 2011-2017
Iaith: EnglishMath o Ffeil: PDF
Nôl i Ysgoloriaethau i Awduron