Dewislen
English
.
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi datgan enwau’r un ar hugain o awduron a fydd yn derbyn Ysgoloriaeth i Awduron 2017. Mae’r Ysgoloriaethau, gwerth cyfanswm o £70,000, yn galluogi’r awduron i ganolbwyntio ar ysgrifennu gwaith creadigol penodol, neu’n cynorthwyo ymchwil a theithio sy’n gysylltiedig â’r gwaith ar y gweill.

Mae Ysgoloriaethau i Awduron Llenyddiaeth Cymru yn cynnig cymorth i awduron trwy ganiatáu amser a chyfle iddynt ddatblygu eu crefft ymhellach, ar bob cam o’u gyrfa. Fe ddyfarnwyd ysgoloriaethau i nifer o awduron newydd. Mae pymtheg o awduron eleni yn derbyn ysgoloriaeth am y tro cyntaf, a gydag wyth ohonynt heb gyhoeddi cyfrol o’u gwaith hyd yn hyn, mae’r pwyslais eleni ar gefnogi gwaith ysgrifenedig newydd. Bydd ysgoloriaethau hefyd yn cynorthwyo awduron arobryn i arbrofi a thorri tir newydd.

Yr awduron sy’n derbyn Ysgoloriaethau i Awduron Llenyddiaeth Cymru 2017 yw: Sophie McKeand, Paul Henry, Rachel Trezise, Eve Elizabeth Moriarty, Manon Rhys, Mike Parker, Damian  Harvey, Thomas Morris, Gareth Hugh Evans Jones, Sarah Down-Roberts, Angela Graham, Kat Ellis, Tanya Atinuke Akinyemi (Atinuke), Alan Llwyd, Lowri Larsen, Ben Rawlence, Carys Haf Glyn, Meirion Jordan, Karen Phillips, Liz Jones, a Holly Müller. Darllenwch ragor amdanynt oll yma.

Mae hel straeon, a phwysigrwydd adrodd stori yn elfen gyffredin i’r gwaith ar y gweill gan awduron 2017. Mae’r gweithiau hyn yn y Gymraeg a’r Saesneg, mewn genres amrywiol megis straeon byrion, nofelau, casgliadau o gerddi a gwaith ffeithiol greadigol. Mae yma straeon o fywyd go iawn, o Gasnewy’ bach i Gaerffili, ac eraill sy’n ein tywys trwy ddrws dychymyg, i arall fyd. Bydd Ysgoloriaeth Awdur Newydd Sarah Down-Roberts yn caniatáu iddi ymchwilio ac ysgrifennu cofiant newydd i John Eilian, un o gymeriadau mwyaf lliwgar yr ugeinfed ganrif. Newyddiadurwr, golygydd, cyfieithydd, bardd, sosialydd pybyr a drodd yn geidwadwr a brenhinwr. Bydd Ysgoloriaeth Awdur Newydd yn galluogi Gareth Hugh Evans-Jones i ddatblygu ei nofel gyntaf, Dinogad, sydd â’i gwreiddiau yng ngherddi Y Gododdin. Bydd y nofel ffantasi yn ceisio rhoi gwedd newydd ar stori gyfarwydd; am ddyn ifanc yn dysgu ei fod wedi ei fabwysiadu, a goblygiadau hynny arno ef, ei deulu maeth a’r gymdeithas yn ehangach.

Edrychwn ymlaen at weld gwaith arloesol gan ddau awdur profiadol, wrth iddynt fentro i dir newydd. Bydd Ysgoloriaeth Awdur Cyhoeddedig yn caniatáu i’r Prifardd Alan Llwyd ganolbwyntio ar gyfansoddi casgliad o gerddi wrth iddo ddynesu at garreg filltir arbennig, a chyrraedd oed yr addewid. Ei fwriad yw llunio cant o gerddi yn edrych yn ôl ar ei fywyd, ac ar ei gyfnod, gan geisio dirnad a deall bywyd. Bydd y Prifardd Manon Rhys yn arloesi trwy ganolbwyntio ar greu gwaith creadigol aml gyfrwng, a fydd yn cynnwys ystod eang o ffurfiau llenyddol – straeon byrion, straeon meicro, ymsonau, dialogau, ysgrifau a cherddi. Ei bwriad yw mentro a herio’r hen ffiniau traddodiadol rhwng “rhyddiaith” a “barddoniaeth”.

Gellir disgwyl gwledd o ffuglen Saesneg newydd wedi eu gosod yng Nghymru a thu hwnt. Yn eu plith bydd nofel gyntaf Thomas Morris, a enillodd Wobr Saesneg Llyfr y Flwyddyn 2016. Bydd Caerffili a’i phobl yn gefndir i’r nofel hon, fel yn ei gyfrol arobryn o straeon We don’t know what we’re doing (Faber). Bydd nofel gyntaf y bardd Meirion Jordan wedi’i gosod yn Nghymru a Ffrainc yn y cyfnod yn dilyn gwrthryfel Owain Glyndŵr. Bwriad Damian Harvey yw cyflwyno hanes cyfarwydd Barti Ddu i gynulleidfa newydd, a bydd ei nofel Saesneg i blant yn gwibio o’r presennol i’r gorffennol. Bydd Carys Haf Glyn yn canolbwyntio ar nofel antur Saesneg i blant, wedi’i gosod mewn tref glan môr yn ne Cymru – cartref criw o ysbïwyr anarferol, criw sy’n cynnwys mamgu’r prif gymeriad.

Ers 2004, mae Llenyddiaeth Cymru wedi dyfarnu dros £1 miliwn ar gyfer Ysgoloriaethau i Awduron, gan alluogi 263 o awduron i ddatblygu eu gwaith mewn ystod o genres. Dros y degawd diwethaf, cafodd ffuglen, barddoniaeth, llenyddiaeth plant, llenyddiaeth i’r arddegau a gwaith ffeithiol greadigol eu cynnwys ymhlith yr ysgoloriaethau llwyddiannus, ac yn 2011 gwobrwywyd nofelau graffeg am y tro cyntaf.

Dywedodd Sioned Williams, Cadeirydd Panel Ysgoloriaethau Llenyddiaeth Cymru: “Fel un sy’n adolygu a beirniadu llenyddiaeth, bu’n brofiad cyffrous i gael y fath gipolwg breintiedig ar y ddawn ac addewid llenyddol sy’n byrlymu i’r brig yng Nghymru ac i lawn sylweddoli pa mor greiddiol a hanfodol yw rôl Ysgoloriaethau Llenyddiaeth Cymru yn y broses o feithrin y ddawn a’r addewid hynny.”

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae cefnogi awduron ar bob cam o’u gyrfa wrth wraidd gwaith Llenyddiaeth Cymru. Mae’r awduron sy’n derbyn Ysgoloriaethau eleni yn cynrychioli cryfder ac amrwyiaeth ysgrifennu yng Nghymru, o leisiau newydd i awduron arobryn sydd wedi ennill eu plwyf. Mewn blwyddyn ble cafwyd y nifer uchaf o geisiadau erioed, roedd y Panel Ysgoloriaethau’n chwilio am y safon aur. Edrychwn ymlaen at ddarllen llenyddiaeth o’r radd flaenaf o Gymru.”

Mae Llenyddiaeth Cymru yn gweinyddu’r Ysgoloriaethau i Awduron ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru. Noddir Ysgoloriaethau i Awduron gan y Loteri Genedlaethol, trwy Gyngor Celfyddydau Cymru.

Dywedodd Dr Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru: “Mae’r ysgoloriaethau a wobrwyir yn adlewyrchu cymysgedd cyfoethog talent, a rhychwant arddulliau, pynciau a ffurfiau llenyddiaeth o Gymru; ond yn fwy na hynny, beth y gwelwn yma yw straeon nas adroddwyd eto, ac edrychaf ymlaen at weld canlyniadau’r ysgoloriaethau hyn yn addurno silffoedd llyfrau yn y dyfodol agos.”

I ddarllen mwy am Ysgoloriaethau i Awduron Llenyddiaeth Cymru, a’r dulliau eraill gall y cwmni cenedlaethol ar gyfer datblygu llenyddiaeth gefnogi awduron ar bob cam o’u gyrfa, cliciwch yma.

Am restr gyflawn o’r awduron sy’n derbyn Ysgoloriaethau 2017; cliciwch yma.

Adroddiad Cadeirydd Panel Ysgoloriaethau 2017

Bursaries Panel Chair's Report 2017
Iaith: EnglishMath o Ffeil: PDFMaint: 175KB
Adroddiad Cadeirydd Panel Ysgoloriaethau 2017
Iaith: WelshMath o Ffeil: PDFMaint: 215KB
Nôl i Ysgoloriaethau i Awduron