Gwybodaeth i Awduron
Anfon eich gwaith at gyhoeddwyr
Bydd gwell cyfle i’ch gwaith gael ei dderbyn os dilynwch drefn syml a safonol:
- Teipiwch neu brintiwch ar un ochr i’r papur, maint A4, gofod dwbl i ryddiaith, gofod sengl i farddoniaeth gyda dwbl rhwng penillion, yn union fel y byddech yn hoffi i’ch cerdd ymddangos mewn print.
- Rhowch deitl i’r darn, clipiwch waith aml–dudalen at ei gilydd, rhowch eich enw a’ch cyfeiriad ar waelod y tudalen olaf. Osgowch ffeiliau, cloriau plastig, cyfnerthwyr a chlipiau ffansi o unrhyw fath. Rhowch nifer y geiriau ar gyfer rhyddiaith. Peidiwch â thrafferthu am hynny gyda barddoniaeth.
- Cadwch gopi, gwnewch gofnod o beth a anfonwch i ble a phryd, gadewch le gwag i nodi’r ymateb.
- Yn achos barddoniaeth ar gyfer cyfnodolion, anfonwch nifer fechan o gerddi ar y tro - mae chwech yn nifer da - gyda llythyr cyflwyno byr yn dweud pwy ydych. Gadewch y cyfiawnhad, yr ymddiheuriad a’r eglurhad ar gyfer eich gr?p awduron.
- Os ydych yn anfon casgliad at gyhoeddwr, casglwch 30 neu 40 o gerddi a’u cyflwyno gyda nodyn yn nodi cyhoeddiadau a gwobrau blaenorol (os bu rhai) ynghyd â manylion bywgraffyddol cryno amdanoch eich hun.
- Yn achos rhyddiaith, os yw’n stori fer, yn erthygl neu’n adolygiad, anfonwch y darn cyfan. Yn achos, anfonwch grynodeb a phennod enghreifftiol gyda llythyr byr yn gofyn i’r cyhoeddwr a hoffai weld rhagor. Yn achos casgliad o storïau byrion, anfonwch ddwy stori enghreifftiol ynghyd â nodyn yn disgrifio’r llyfr cyfan.
- Cynhwyswch amlen â’ch cyfeiriad a stamp arni. Dylai fod yn ddigon mawr ar gyfer ateb a/neu i ddychwelyd eich gwaith.
- Byddwch yn barod i aros rhai wythnosau am ateb. Peidiwch â phlagio. Byddwch yn amyneddgar. Bydd y rhan fwyaf o gyhoeddwyr yn ateb yn y diwedd.
- Peidiwch byth ag anfon yr un darn i ddau le yr un pryd (ac mae hyn yn cynnwys e-gylchgronau vs. copi caled. Mae’n dal yn ansicr a yw cynnwys darn ar eich gwefan bersonol yn cyfrif fel cyhoeddi.) Os ydych wedi anfon darn i gystadleuaeth yna gwnewch yn si?r nad ydych yn anfon yr un darn i rywle arall yr un pryd.
- Os ydych yn ystyried anfon gwaith yn electronaidd, holwch yn gyntaf. Mewn arolwg diweddar dywedodd y rhan fwyaf o gyfnodolion a chyhoeddwyr eu bod yn gwrthod derbyn deunyddiau a anfonir fel hynny.
-
Anfonwch eich gwaith gorau. Go brin y bydd gwaith nad yw’n gwbl foddhaol hyd yn oed yng ngolwg yr awdur ei hun yn gwneud argraff ar unrhyw un arall.
Addaswyd yr eitem hon o gyfraniad Peter Finch i gyhoeddiad blynyddol Macmillan, The Writer’s Handbook, golygydd Barry Turner. Daeth Palgrave Macmillan â'r cyhoeddiad hwn i ben. Ymddangosodd y rhifyn terfynol yn 2011.


