Dewislen
English
Cysylltwch

Mae Cynrychioli Cymru yn gam pwysig yn ymdrechion Llenyddiaeth Cymru i weddnewid diwylliant llenyddol y wlad. Y nod yw creu diwylliant sy’n gwbl gynrychioladol o gymunedau amrywiol Cymru, a sicrhau bod gan Gymru wastad ei chyflenwad o unigolion talentog, amrywiol a fydd yn cael eu cydnabod ledled y Deyrnas Unedig a’r tu hwnt.

Bob blwyddyn, mae’r rhaglen wedi’i chynllunio mewn ymgynghoriad gofalus â chymunedau, awduron, ac ymgynghorwyr o rwydweithiau helaeth Llenyddiaeth Cymru i fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n bodoli eisoes o fewn y sector. Cafodd rhifyn cyntaf rhaglen Cynrychioli Cymru, ei lansio yn 2020 ar gyfer awduron o liw ac mae’r rownd bresennol yn cefnogi awduron o gefndiroedd incwm isel.

Yn ei thrydedd flwyddyn, bydd y rhaglen yn croesawu ceisiadau gan awduron o Gymru sy’n dod o gefndir heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy’n ysgrifennu neu’n ymddiddori mewn ysgrifennu ar gyfer plant a phobl ifanc. Darllenwch ragor am y rhesymau  bydd y rhaglen eleni yn canolbwyntio ar ysgrifennu ar gyfer plant a phobl ifanc yma.   

Byddwn yn cefnogi carfan o 13 o awduron o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol drwy gynnig y canlynol:  

  • gwobr ariannol hyd at £3,300 i helpu awduron gymryd seibiant i ysgrifennu, mynychu sesiynau hyfforddi a digwyddiadau llenyddol ac i gynorthwyo gyda chostau teithio  
  • Cyfres o sesiynau mentora un-i-un yn ystod y flwyddyn
  • gweithdai a sgyrsiau misol 
  • cyfleoedd i rwydweithio, creu cysylltiadau newydd ac adeiladu perthnasau gydag awduron eraill  
  • cyfleoedd i gyfarfod arbenigwyr yn y diwydiant llenyddiaeth a chyhoeddi yng Nghymru a thu hwnt 
  • encilion ysgrifennu am ddim yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd  

Bydd y rhaglen yn dechrau ym mis Mawrth 2023 ac yn rhedeg tan ddiwedd mis Chwefror 2024. 

Gallwch ddysgu rhagor am y rhaglen yn ein adran Cwestiynau Cyffredin.

Mae Cynrychioli Cymru yn rhaglen 12 mis a gaiff ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Cymru.

Nôl i Cynrychioli Cymru