Hanes

Sefydlwyd Llenyddiaeth Cymru ym mis Ebrill 2011. Mae'n cynnwys yr Academi Gymreig a Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ac mae'n parhau gyda swyddogaethau'r asiantaeth hyrwyddo flaenorol, Academi.

Sefydlwyd yr Academi Gymreig, cymdeithas genedlaethol awduron Cymru, yn 1959 yn sgil sgyrsiau rhwng Bobi Jones a Waldo Williams, awduron Cymraeg a ddewisodd yr ansoddair ’Cymreig’ yn hytrach na ’Cymraeg’ i sicrhau y câi awduron a oedd yn ysgrifennu yn Saesneg, ac artistiaid eraill, eu cynnwys yn y man. Crëwyd adran Saesneg ei hiaith ym 1968 o ganlyniad i fenter gan Meic Stephens, a oedd ar y pryd yn Gyfarwyddwr Llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, ar y cyd ag aelodau o’r Guild of Welsh Writers, grŵp a oedd yn gweithio’n bennaf o Lundain.

Cymerwyd y camau cyntaf i ehangu'r gymdeithas yn 1998 ar ôl ennill cytundeb Cyngor y Celfyddydau i ddarparu Asiantaeth Genedlaethol i Hybu Llenyddiaeth yng Nghymru, o'r enw Academi.

Yn 2010, dynododd Adolygiad Budsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru yr Academi fel un o chwe cwmni cenedlaethol, pob un yn cynrychioli genre celfyddydol gwahanol. Datblygodd yr Academi i fod yr asiant de facto i Cyngor y Celfyddydau ar weithgarwch llenyddol. O fis Ebrill 2011, ail-frandiodd Academi i fod yn Llenyddiaeth Cymru. Daeth y gymdeithas i lenorion, yr Academi Gymreig yn ogystal â'i gwasanaethau a'i gweithgareddau dan y faner newydd hon, ynghyd â Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy.