Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #3: I Harri Jac Lewis

Cyhoeddwyd Iau 6 Hyd 2016 - Gan Aneirin Karadog
Her 100 Cerdd #3: I Harri Jac Lewis

screen-shot-2016-10-06-at-01-19-10

I Harri Jac Lewis
(Mab i Sioned a Bradley a ddaeth i’r byd ym mis Awst)

Pan fo’r tywydd yn tampan
a Morus y Gwynt yn grac,
fe gewch chi ddiwrnod heulog
trwy lygaid Harri Jac.

Pan fo bywyd ar ruthr,
yn gynt na’r trên ar y trac,
hafan a’i gorffwysfa
sy’n llygaid Harri Jac.

Pan fo Awst yn atgof
a’r haf di hel ei bac,
bydd ’na wastad wyliau
yng nghwmni Harri Jac.

–  Aneirin Karadog, 1.14 am

Uncategorized @cy