Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #4: Gofal

Cyhoeddwyd Iau 6 Hyd 2016
Her 100 Cerdd #4: Gofal

screen-shot-2016-10-06-at-01-42-23

Gofal

Heddiw
fel bob dydd
mi olchaf ddoe oddi ar dy wyneb.

Heddiw
fel bob dydd
mi roddaf glust i dy eiriau
a dy dawelwch.

Ac os ydi yfory
ychydig o dy gyrraedd
estynaf y gwpan atat
i ti gael yfed.

–  Gwyneth Glyn, 1.27 am

Uncategorized @cy