Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #47: Llythyr Serch

Cyhoeddwyd Iau 28 Medi 2017 - Gan Rhys Iorwerth
Her 100 Cerdd #47: Llythyr Serch
Llythyr serch
 
O, dy grwst! Ei garu’r wyf.
Yn frwd, ei lyfu’r ydwyf.

Fe gaf, pan fyddaf am fwyd,

ysfa am dy flasusfwyd

ac yn fy llaw, daw bob dydd

o dy lenwad lawenydd.
 
Dy gig moch! Hyd geg y mae
iach ŵr yn hoff o chwarae

gyda thi. Jeli a jiws;

mynnwn dy gael mewn
menus
hyd y wlad. Un di-ail wyt;

d’weda nad byrbryd ydwyt!
 

O’r holl beis neis, cyn nosi,
y gwir teg – y gorau, ti.

– Rhys Iorwerth, 00.04 pm

 

Uncategorized @cy