Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #48: “Are you a Capper?”

Cyhoeddwyd Iau 28 Medi 2017 - Gan Karen Owen
Her 100 Cerdd #48: “Are you a Capper?”

“Are you a capper?”

Mae prif lythrennau
(yn ôl y rheolau
a luniwyd cyn geni dyddiadau
mewn cromfachau)
yn byw yn unig ar ben brawddegau,
yn dangos heb gryndod emosiynau
na gwendid teimladau
lle mae’r ystyr i ninnau
i fod i ddechrau;

nid mewn mân gymalau,
nac ar ôl colonau,
sylwadau, dyfyniadau nac ebychnodau,
y mae lle prif lythrennau
yn ein siarad a’n dywediadau;
maen nhw i sefyll yn gadarn golofnau,
dim ond wedi atalnodau.

A dyna ryfedd fel y mae’r cwestiynau
sy’n deillio o dyrau dogfennau
gan yr awdurdodau
ar ein bywydau;
gan wleidyddion a siwtiau
sy’n trefnu’n holl ddyddiau,
yn sydyn amau
ai am y gorau
y defnyddiwn ein llythrennau;

a bod siarad am fapiau
y gogledd a’r dehau,
gan graffu ar rannau
a gwahaniaethau,
(heb sôn am berthnasau
a’r holl brofiadau,
y mudo a’r maddau
sy’n ein huno ninnau,)
yn lot, lot gormod o anadliadau.

Gwell rhoi prif lythrenna’
fel yn ‘North Korea’
i’n De a’n Gorllewin a’n Gogledd ninna’.
Ia.

– Karen Owen, 00.01 am

Uncategorized @cy