Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #5: Ambiwlans Awyr

Cyhoeddwyd Iau 6 Hyd 2016
Her 100 Cerdd #5: Ambiwlans Awyr
screen-shot-2016-10-06-at-02-04-03

 

Ambiwlans Awyr
 
Mi ddaeth fel draig o’r awyr
Gan ysgwyd derw cry,
A dychryn pawb wrth landio
Yn y cae tu ôl i’r tŷ.
 
Ond mi gododd megis angel
Dros y coed yn ôl,
A mynd i’r gaer ddiogel
Ac un annwyl yn ei chôl.
 
A ryw ddydd, a minnau’n hen 
Ac wedi blino byw,
Tyrd, ambiwlans yr awyr, 
I fynd â fi at Dduw.

 

  –  Twm Morys, 1.59 am

 

Uncategorized @cy