Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #64: Y Dylluan

Cyhoeddwyd Iau 28 Medi 2017 - Gan Iestyn Tyne
Her 100 Cerdd #64: Y Dylluan

Y Dylluan

 

Aeth tylluan heibio’r ffenest

yn y gwyll;

gwelais grafangau gloyw’n

cipio llygoden o’r llwyn;

llygaid ar dân;

pig ac ewinedd yn rhwygo cnawd

a gwaed ar ei blufyn gwyn.

 

Ond dim ond ei glywed o wnes i.

 

– Iestyn Tyne, 03.32 am

 

Uncategorized @cy