Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #94: Elen

Cyhoeddwyd Iau 28 Medi 2017 - Gan Gwynfor Dafydd
Her 100 Cerdd #94: Elen
Elen
I longyfarch Gavin a Jordan ar fabwysiadu Elen, hawl nad oedd gan gyplau hoyw tan 2002
 
Ac wedi galw hir am gawod o law
i dorri syched ein daear swil,
daeth yn ddagrau i gyd un bore
rhwng llwybrau amrwd ein haddewidion
a phwytho craciau’r tir.
 
Nawr dyfriwch chi yr lili hon
yn ofalus ag enw ac iaith
a chaiff dyfu’n wyllt
o gylch eich gardd
i ffeindio’i phetalau.  
– Gwynfor Dafydd, 10.40 am
Uncategorized @cy