Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd: Holi Twm Morys

Cyhoeddwyd Mer 5 Hyd 2016 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Her 100 Cerdd: Holi Twm Morys
Llun: Tomos Dafydd
Mae Twm Morys yn un o bedwar bardd sydd wedi derbyn her gan Llenyddiaeth Cymru i gyfansoddi cant o gerddi gwreiddiol mewn 24 awr ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth. Fe ofynom ni ambell gwestiwn iddo cyn i’r dasg enfawr ddechrau…

 

Beth ydych chi’n edrych ymlaen fwyaf ato wrth gymryd rhan yn Her 100 Cerdd?

Yr high ddaw o greu cerddi o dan bwysau.  Mae’n wefr yn yr Ymryson. Bydd fel y gwynt nerthol yn rhuthro yn yr Her 100 Cerdd!

 

Beth ydi eich gofid pennaf o gymryd rhan yn Her 100 Cerdd?

Y bydd fy mhethau i, er gwaetha’r high, yn llawer iawn is na’r englynion.

 

Oes gennych dacteg clyfar neu unrhyw syniad o sut i wneud yr her yn haws?

Bûm yn ystyried peidio ag odli, ond byddai hynny’n gabledd.

 

Ydych chi’n ffyddiog y byddwch, gyda chymorth eich cyd feirdd yn llwyddo i gwblhau’r her?

Wel, ydw, debyg iawn!

 

Dyma ragor o wybodaeth am Twm Morys:

Ganwyd Morys (do, wir Dduw) yn y tŷ lle mae Mr Bean yn byw,
ond daeth i gael magwraeth iach i Wlad ei Dadau’n fychan fach,
I dŷ mawr claer-wyn, hen a hardd, ac iwcaliptýs yn yr ardd.
Mi âi i ysgol bach y Llan ar gefn ei ful. Ond yn y man,
mi aeth i ysgol plant y Plas i gynnig cweir i fechgyn cas.
Dysgu mannars ac amynedd. Dod adra’n ôl ymhen deng mlynedd.
Cafodd radd Gymraeg cyn hir, a mynd yn glerwr, ac ar fy ngwir,
bu’n clera dipyn ym mhob man. Bu’n bwyta adar to’n Japan,
a mochyn cwta yn Ne’r Amerig. Bu’n cysgu lawer gwaith ar gerrig.
A rhyfeddodau mawr y ddaear: y rhaeadr fwya’ ar glawr y ddaear;
gwên plismones yn Triést; Tŷ Opera Sydney; Everest;
palasau Fenis; ginis Cork; y Nadolig yn New York;
corn y trên, ac udo’r cŵn, a chaeau gwenith Sascatŵn;
wal Berlin, a marchnad Cairo… Mi aeth y cwbwl lot i’w bair o,
ac wedyn dod ohono’n straeon ac yn gerddi a chaneuon.
Bu’n byw fel hobo yn y bôn, efo’r glêr ar lawer lôn.
A’r lôn orau o’r holl lonydd fu’r lôn adra i Eifionydd.

Uncategorized @cy