Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #17

Cyhoeddwyd Iau 4 Hyd 2018 - Gan Osian Owen
Her 100 Cerdd #17

I genod 10B (Ten Bî), Tŷ Stiwdants ym Mangor

 

Yn 10B mae tiwn bywyd

a’i nodau’n gordiau i gyd

Dyma lannerch y merched

Yn dŷ laff ei hyd a’i led

Nid tŷ o ferched taeog

Ond tŷ’r nwyf fel Tír na nÓg

Diorffen yw pob heno

Yn eich chwys, a’r nos o’i cho

Yn dawnsio, swagio eich sêl

A rêfio eich gwrthyfel

Y giwed ir eu miri

Ciwed wyllt W.K.D.

Yn 10B mae tiwn bywyd

A’i nodau’n gordiau i gyd.

 

Osian Owen, 16.22 pm

Uncategorized @cy