Dewislen
English
.

Preswyliad Llenyddol Barddoniaeth Colled: Brwsel #1 – Gan Nerys Williams

Cyhoeddwyd 23 Hydref 2017 - Gan Nerys Williams
Wythnos Un

Ar ôl cyrraedd Passa Porta, ger Place de La Bourse ym Mrwsel, mae Nathalie, cydlynydd y ganolfan yn dangos y fflat i mi. Mae hyn ar ôl fy helpu i gario fy magiau i fyny’r grisiau troellog. Mae’r ces yn cynnwys rhai o’r llyfrau trwm roeddwn o’r farn bod eu hangen nhw arnaf i ar gyfer y prosiect ysgrifennu. Dyma ddesg yn yr ystafell wely fach. Mae hon ar eich cyfer chi. Mae gan y fflat – sy’n cynnwys gofod swyddfa ac ystafelloedd cyfarfod ar gyfer Passa Porta – nenfwd uchel hyfryd sy’n nodweddu’r adeilad hwn o’r 19eg Ganrif. Drwy ffenestri mawrion yr ystafell gyfarfod gyda’r nos, byddaf yn gwylio cath ddu a gwyn yn neidio o un balconi i’r llall (tair llawr o’r ddaear). Mae golau glas y neon oddi tani yn goleuo’i chynffon.

Mae gennyf dair wythnos ym Mrwsel i gwblhau drafft cyntaf cerdd hir sy’n dwyn y teitl dros dro ‘Pontio’. Wrth ymateb i ganmlwyddiant cofio Hedd Wyn, neu Ellis Evans, a fu farw ar 31 Awst 1917 ym mrwydr drychinebus Passchendaele, roedd yn gwneud synnwyr i mi feddwl am uchelgais darn hwy o farddoniaeth. Fe anfonodd lawysgrif ei awdl fuddugol Yr Arwr o Fléchin yng ngogledd Ffrainc – yr awdl a enillodd y Gadair Ddu iddo yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw. Ar ôl ail-ddarllen y gerdd hon ar ddechrau’r wythnos, mae dwyster seiniol y gerdd yn drawiadol. Hefyd, yr hyn sy’n aros gyda mi yw’r ffordd y bu modd i Evans gynnal momentwm y patrymau cytseiniol cymhleth. Mae’n gerdd sy’n daer am heddwch.

Mae amodau fy ngwaith i yn rhai hynod ffodus. Welais i erioed gyflafan. Phrofais i erioed unrhyw dlodi. Drwy hap a damwain fe ddes wyneb yn wyneb â’r gofeb i filwyr o Brydain yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn Place Poelaert neithiwr, gan fy atgoffa o’r lladd erchyll sy’n rhan annatod o dirwedd y wlad hon.

Bydd ‘Pontio’ mewn deg rhan ar wahân yn y pen draw. Mae’n agor gyda golygfa o gyfarfod dychmygol rhwng Hedd Wyn a Francis Ledwidge, bardd dosbarth gweithiol o Iwerddon (o Swydd Meath lle rwy’n byw bellach), ac a fu farw’r un diwrnod. Maent wedi’u claddu yn yr un fynwent, Artillery Wood ger Ypres. Roeddwn wedi drafftio’r ffrâm gychwynnol hon cyn i mi gyrraedd. Serch hynny, rwy’n credu bydd golygfeydd yn y gwaith hirach hwn wedi’u seilio ar fy mhrofiad diweddar wrth wylio ffilmiau mud yn Cinematek Brwsel. Fel prototeip hardd i The Wizard of Oz, rhyddhawyd The Blue Bird yn 1918. Mae’r ffilm hon yn gyforiog o’r ddelfryd o ‘ddaioni’ ysbrydol mythegol y mae Evans yn ceisio’i greu yn Yr Arwr.

Roeddwn i hefyd am gynnig man i Evans orffwyso – ymhell o fyd rhyfela. Mae un adran y dilyniant bellach yn cyflwyno Evans i dŷ Art Nouveau Victor Horta yn 23-25 Rue Américaine. Brwsel. Mae adran arall (rwy’n ei chyfansoddi ar hyn o bryd) yn myfyrio ar statws y ddau fardd fel dynion di-briod neu ‘bachelors’. Daeth yr adran hon i fodolaeth yn sgil cerdd wedi’i chrafu ar wal beudy gan Ledwidge lle roedd yn gweithio fel gwas ffarm. Teitl y gerdd yw ‘The Bachelor’s Tax’ ac rwy’n ystyried tarddiad hynod y gair ‘bachelor’, a oedd unwaith yn cyfeirio at ‘farchog neu was y Brenin nad oedd yn meddu ar dir’. Mae’r gair hefyd wedi’i gysylltu â’r Hen Wyddeleg, bachlach, sef aelod o’r werin bobl. Cofiais, mewn ennyd o oleuni geiriol, fod Ledwidge yn cael ei ddisgrifio fel bardd y werin yn ei gyfrol gyntaf Songs of the Fields (1916).

Mae llawer o’r gwaith ysgrifennu yn seiliedig ar hap a damwain neu ddilyn ambell sgwarnog. Ewch ati mewn ffordd rhy gaeth ac ni fydd y ddalen wag yn ildio, ewch ati mewn ffordd rhy gysyniadol ac mae’r geiriau’n troi’n ddadl ddiffaith. Blawd yn eich ceg. Gan ddilyn sgwarnog yn fy wythnos gyntaf, es i farchnad rad Place du Jeu de Balle. Gan deimlo rhywun neu rywbeth yn rhythu arnaf, troes i’w wynebu. Yna, ar gadair swyddfa, syllai llwynog wedi’i stwffio arnaf. Yn briodol iawn, mae Place du Jeu de Balle ychydig islaw Rue des Renards. Rywsut, rwy’n credu bydd y llwynog hwnnw yn mynnu ei le mewn cerdd.


Ar hyn o bryd, mae Nerys Williams, un o gyfranogwyr y noson, yn cyflawni preswyliad llenyddol am dair wythnos ym Mrwsel, lle mae’n archwilio’r tebygrwydd rhwng hanes Hedd Wyn a’r bardd o Iwerddon Francis Ledwidge, a fu farw yn Ypres ar 31 Gorffennaf 1917. Yn ystod ei phreswyliad, bydd Nerys yn ymweld ag ardal Artillery Wood, ble claddwyd y ddau fardd.

Dyddiadau’r Preswyliad: Dydd Llun 8 – Dydd Sul 28 Mai 2017

Mae prosiect ehangach Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss yn cynnwys digwyddiadau coffaol yn Fflandrys ac Iwerddon; cyfnewidfa breswyl ar gyfer awduron rhwng Passa Porta ym Mrwsel a Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy; a sioe farddoniaeth amlgyfrwng newydd dan y teitl Y Gadair Wag – i’w llwyfannu ym mis Medi 2017. Yn ogystal, bydd Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn yn traddodi Darlith Glyn Jones 2017 yng Ngŵyl y Gelli ar Hedd Wyn (Dydd Llun 29 Mai, 7.00 pm).

Caiff Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss ei arwain gan Llenyddiaeth Cymru, ac fe’i ariannir gan Raglen Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf Llywodraeth Cymru Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918, ac fe’i weithredir mewn partneriaeth â Llywodraeth Fflandrys ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

I ddarganfod mwy am Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss, cliciwch yma.

Barddoniaeth Colled