Dewislen
English
Cysylltwch

Dwy gerdd ar gyfer Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA gan Ifor ap Glyn

Cyhoeddwyd Gwe 2 Meh 2017 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Dwy gerdd ar gyfer Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA gan Ifor ap Glyn
Crown Copyright at Visit Wales

Dwy gerdd ar gyfer Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA a gynhelir yn Stadiwm Genedlaethol Cymru, Caerdydd, ar 3 Mehefin.

Gan Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru


(i)

Caerdydd 3.6.17

          Sarete sempre
          i nostri fratelli e sorelle europei
Siaradwn â’n gilydd
mewn lliwiau gwahanol,
a rhwng banllefau’r soseri,
cymeradwyaeth cwpanau
a hisian stêm llond stadiwm,
mae ein dinas
fel caffi cyfandir cyfan.
A’n lleisiau fel tyllau haul
mewn coedwig tywyll…
           Siempre seréis
           nuestros hermanos y hermanas europeos
mae’n croeso ni yma, yn aros ‘run fath…

 

(ii)

Real v Juve 3.6.17

Tydi’r bienvenido ddim yn newydd yma;
rhannwn yr un cyfenwau;
Esteban, Zamora;
mor Gymreig â Dowlais, neu Abercraf.

A’r un fu’r benvenuti
i’r Bracchi, Sidoli, Calzaghe;
nhw sodrodd eu tricolore
yng nghalon ein baner ni.

A chan y rhannwn gymaint
o hanes, doed a ddêl,
mi rannwn ein harwyr hefyd –
John Charles a Gareth Bale!
Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru

 

— Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru

Barddoniaeth Colled