Dewislen
English
Cysylltu

Her 100 Cerdd #46

Cyhoeddwyd Iau 4 Hyd 2018 - Gan Osian Owen

I Longyfarch Adam Price

Blant y ffin, blant y ddinas

O lwch glo neu lechi glas

O Ddyfrdwy, Mynwy, a Môn

Un felly yw’n Hafallon

Un wlad sy’n cael ei phledu

Un wlad yw ar orwel du.

Mor oer ydy’r Gymru hon…

Ond daw, drwy’r oriau duon

Haul araul nôl i’w herwau

Ail flagur i’r bur hoff bau

Adam – ti yw’n ehedydd

I hwylio rhawd Gwalia Rydd.

 

Osian Owen, 22.48 pm

 

Her 100 Cerdd 2018