Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #57

Cyhoeddwyd Gwe 5 Hyd 2018 - Gan Osian Owen
Her 100 Cerdd #57

Am Dro yn y Glaw

 

Wyt ti’n clŵad yn y glawiada’

ogla dail, ogla da?

Tydach chi ddim yn clŵad

ogla, Dad…

 

…clŵad adar

chywrnu’r car

a’r ci.’

 

…pydru’r das

ogla’r masarn?

Clŵad masarn!?

Na – clŵad miwsig!’

 

…ac ogla’r ddaear yn marw

a’r mwd – amrwd a du?

 

‘Na – ti mor ddiniwed.’

 

Ac wrth i’r haul

ddylyfu gên

a lapio’i hun

am y brigau gwlyb

 

rhed dy fys dros fysidd y cŵn…

 

‘Pawennau , Dad, nid bysidd, siŵr!

 

…a breichiau’r haul yn cosi’r dŵr!

 

‘Dad, sadia!

’Nei di?

 

Osian Owen, 02.02 am

Uncategorized @cy