Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #12

Cyhoeddwyd Iau 4 Hyd 2018 - Gan Caryl Bryn
Her 100 Cerdd #12

‘Ga i gerdd i gwpl sy’n dathlu’u pen-blwydd priodas cyntaf, plis?’. Cais gan Naomi John. (@naomi_elena) 

 

I Aron a Jess ar eu pen-blwydd priodas cyntaf…

 

Aeth diwrnod

yn flwyddyn –

yn llyfn fel treiglad yr haf

i’r hydref…

 

a chithau’n

gweld y melysder

yn y chwerwder

a theimlo’r mymryn

o gynhesrwydd

yn nosweithiau oer

y gaeaf cynnar

a ‘fory’ch dau

yn nawnsio’r dail

 

 

ond

 

tri

sy’n llenwi’r cartref

a phob gaeaf

yn arafu

oherwydd Elliw

ydi’r allwedd

sy’n creu lloches

o dir Llechwedd

Caryl Bryn, 14.52 pm

Uncategorized @cy