Dewislen
English
Cysylltwch

Barddoniaeth Colled – Preswyliad Llenyddol Tŷ Newydd

Cyhoeddwyd Llu 6 Tach 2017 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Barddoniaeth Colled – Preswyliad Llenyddol Tŷ Newydd

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi bydd bardd o Antwerp, Peter Theunynck yn cyflawni preswyliad llenyddol yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn ystod mis Tachwedd eleni.

Mae’r preswyliad yn rhan o Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss, prosiect sy’n coffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf trwy roi sylw penodol i’r bugail-fardd o Drawsfynydd, Hedd Wyn, a laddwyd ar faes y gâd yn Fflandrys, ger Ypres, ar 31 Gorffennaf 1917. Rheolir y prosiect gan Llenyddiaeth Cymru mewn partneriaeth â Rhaglen Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf Llywodraeth Cymru Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 a Llywodraeth Fflandrys.

Mae’r awdur Peter Theunynck (1960) yn byw a gweithio yn Antwerp yng Ngwlad Belg. Y mae’n aelod o Academi Frenhinol Iaith a Llên yr Iseldiroedd, ac mae wedi cyhoeddi wyth cyfrol o farddoniaeth, bywgraffiad llenyddol Karel van de Woestijne, nofel a nofel graffig. Mae’n gweithio ar hyn o bryd ar nofel newydd am yr artistiaid o Wlad Belg a dderbyniodd loches yng Nghymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Daw Theunynck yn wreiddiol o orllewin Fflandrys – yr ardal ble y ceir miloedd o feddi rhyfel – ac roedd ei daid yn filwr yn y Rhyfel Mawr. Ymysg y gweithiau o fewn ei gyfrol ddiweddaraf o farddoniaeth, The legs of the sky (2014), roedd cyfres o gerddi am Gaeau Fflandrys.

Peter Theunynck

Dywedodd Peter Theunynck: “Fe hoffwn i ymchwilio i’r lleoedd ble bu’r ffoaduriaid o artistiaid o Fflandrys yn byw yng Nghymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac amgylchiadau eu arhosiad. Y mae’n bwysig iawn fod gen i argraff gywir o’r awyrgylch, amgylchedd, tirwedd, hinsawdd ayyb gan fod y ‘coleur locale’ yn bwysig i awyrgylch y nofel. Rwy’n credu y bydd hyn yn cynyddu hygrededd y stori ac empathi’r darllenydd gyda’r cymeriadau. Fe fydd bod yng Nghymru yn fy ysbrydoli hefyd (gobeithio) ac yn fy helpu i ddatblygu syniadau.

“Rwy’n dymuno dweud stori rhai o’r teuluoedd o artistiad o Fflandrys a ddaeth ar ffo i Gymru. Rydyn ni’n feirniadol iawn o ffoaduriaid yn Ewrop y dyddiau yma. Rydw i am wneud i fy narllenydd ystyried: ‘beth petawn i’n ffoadur’. Rwy am ddangos y ffoaduriaid Ewropeaidd o Fflandrys yn ymdrechu ac  yn ymladd yn erbyn rhagfarnau, megis, ‘dydyn nhw ddim eisiau gweithio’ neu ‘maen nhw’n dwyn ein swyddi’, ‘mae ganddyn nhw grefydd wahanol’, ‘maen nhw’n cymryd ein merched ni’. Drwy hyn rwy’n gobeithio y bydd gan fy narllenwyr well dealltwriaeth o brofiadau bod yn ffoadur.”

Prif leoliad y preswyliad fydd Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy. Fe fydd Peter hefyd yn cymryd rhan yn Symposiwm Cymru/Fflandrys yng Nghaerdydd ar 9 Tachwedd. Bydd hefyd yn cymryd rhan mewn sgwrs gydag Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru mewn digwyddiad yn Galeri, Caernarfon am 4.15pm ar 11 Tachwedd.

Dyddiadau’r Preswyliad: Dydd Llun 6 – Dydd Sul 26 Tachwedd 2017

I ddarllen rhagor am y prosiect ehangach, Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss, cliciwch yma.

Uncategorized @cy