Dewislen
English
Cysylltu

Her 100 Cerdd #51

Cyhoeddwyd Gwe 5 Hyd 2018 - Gan Morgan Owen

Berlin (Kreuzberg)

 

Bore oer a llwyd a’r aer bron yn las

yn erbyn yr eira; mae’r concrit

yn gyfliw â’r awyr a’r stryd

yn estyn fel petai heb ddiwedd.

Ar daith dramor heb y teulu

am y tro cyntaf, fe’m lloriwyd

gan ehangder gwelw’r ddinas

a’i phellteroedd yn ddrws

agored i bob cyfeiriad.

Dilynais y dorf yn ei difaterwch

yn ymhyfrydu fy mod yn neb.

Aeth y bore cyn wynned â chlai;

mewn Almaeneg a grafwyd o lyfr

prynais bwtyn o sigâr

a rhitho fy mod ar daith i’r dwyrain.

 

Morgan Owen, 00.41 am

Her 100 Cerdd 2018