Dewislen
English

Her 100 Cerdd #81

Cyhoeddwyd Gwe 5 Hyd 2018 - Gan Caryl Bryn

‘Beth am gerdd am fore hydref oer a rhewllyd?’ Cais gan Lewis Owen (@LewisOwen_)

#Her100Cerdd

 

Daw’r bore

i Lanberis –

 

nid oedd yn hawdd;

y dyfalbarhau

ond daeth y clecian

ar yr hen glociau

yn y sdydi

lle bu’m yn unsteady

o awr i awr

yn fwy o bît

i ni

y ‘beirdd’.

 

Caryl Bryn, 7.12 am

 

Her 100 Cerdd 2018