Dewislen
English

Her 100 Cerdd #80

Cyhoeddwyd Gwe 5 Hyd 2018 - Gan Morgan Owen

Bore hydrefol, oer

 

Fferrodd golau’r lleuad

yn y glaswellt liw nos

a hyd wythiennau’r

dail yn y caeau;

todda ganol dydd:

fforddol yn ffarwelio

â marwydos

am ei draed yw’r haf.

Morgan Owen, 7.03 am

Her 100 Cerdd 2018