Dewislen
English
Cysylltu

Her 100 Cerdd #35

Cyhoeddwyd Iau 4 Hyd 2018 - Gan Morgan Owen

Bro Morgannwg

 

Gwrandawn a hudo cân

o ddüwch y noson ddi-seren;

codwn grachen y cyfrifiad

er mwyn i’r gwaed

wlitho’r clwy. Denwn

y dŵr o ffynhonnau’r saint

a hysbodd yn nhir angof:

hyn oll a wnawn liw nos

ac ysbrydion yn yr hewl

yn ymdroi i ddawns ein cof.

 

Morgan Owen, 19.52 pm

Her 100 Cerdd 2018