Dewislen
English

Her 100 Cerdd #86

Cyhoeddwyd Gwe 5 Hyd 2018 - Gan Osian Owen

Eira yn Bwcarést

 

Mae’r ddinas yn farwaidd.

Tlodi

wedi ei rhewi’n

gorn

a dagrau olaf Ionawr

yn stremps o wyn

dros ei llwyni brain.

 

Mae’r wythїen o lôn

yn llonnydd.

Wedi fferru.

 

Dinas weddw ydyw hon,

a’r wybren

yn pupuro’i phrydferthwch

yn llwch gwyn

dros ei chreithiau amrwd.

Osian Owen, 7.50 am

Her 100 Cerdd 2018