Dewislen
English
Cysylltu

Her 100 Cerdd #95

Cyhoeddwyd Gwe 5 Hyd 2018 - Gan Morgan Owen

Cadeiriau

 

Cof hir sy’n cywain cadeiriau:

yn nhrofeydd yr hewlydd,

yn y cilfachau cêl

a meysydd oriog hanes,

fe’u dygwn yn ôl i heddwch gwlad

i gymodi â brath dibrisiad.

 

Morgan Owen, 10.15 am

Her 100 Cerdd 2018