Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #18

Cyhoeddwyd Iau 4 Hyd 2018 - Gan Morgan Owen
Her 100 Cerdd #18

Calan Gaeaf

 

Cerddoriaeth beddi yw tawelwch

ym mynwentydd y noson hon.

Yn nawnsfeydd y trothwy

rhwng byd y byw a’r meirwon,

consuriwn o’r pridd llaith

gythreuliaid ac ysbrydion.

 

Morgan Owen, 16.28 pm

Uncategorized @cy