Dewislen
English

Her 100 Cerdd #45

Cyhoeddwyd Iau 4 Hyd 2018 - Gan Caryl Bryn

‘Fysa fo’m yn #Her100Cerdd heb ricwest am gerdd am glustog hômêd Caradog Prichard Caryl Bryn #UNOL #CarylPrichard #CaradogBryn’. Cais gan Anest Bryn (@Anest_Bryn).

#Her100Cerdd

 

Hen griadur

oedd ‘rhen Garadog

â’i eiriau’n

rhai gwirion,

weithia’

a phennod 8?

Godidog!

 

Wedi oriau o fod fel y gôg;

O! Na chawn ymhel

tua ‘ngwely

i lust-io

dros fy nghlustog.

 

Caryl Bryn, 22.41 pm

 

Her 100 Cerdd 2018