Dewislen
English

Her 100 Cerdd #21

Cyhoeddwyd Iau 4 Hyd 2018 - Gan Manon Awst

Cawod (I’r cyfieithwyr yn y dŵr – cais Iestyn Tyne)

 

Tollta’r glaw yn ddi-drugaredd

gan socian ffabrig y dref

yn arlliw undonog Hydref.

 

Mae’r gwres ‘mlaen ers echdoe

a’r dŵr anweledig yn sisial

drwy’r peipiau copr yn ddyfal.

 

Dim ond awr nes gorfod gadael

fy nyth o ddesg a’i geiriau clyd –

wynebaf y gawod yn bwdlyd.

 

Manon Awst, 17.09 pm

Her 100 Cerdd 2018