Dewislen
English
Cysylltwch

Cerddi Guerrilla – Ifor ap Glyn

Cyhoeddwyd Gwe 13 Gor 2018 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cerddi Guerrilla – Ifor ap Glyn

Mae Ifor ap Glyn Bardd Cenedlaethol Cymru newydd ddychwelyd o daith i Sweden ble bu’n ymweld â thref Tranås ar gyfer gŵyl flynyddol at the fringe. Mae’r ŵyl yn cael ei gynnal ym mis Gorffennaf pob blwyddyn ac yn 8 diwrnod o hyd. Daw ymarferwyr celfyddydol o Sweden a thu hwnt i rannu celf, llenyddiaeth, dawns a ffilm trwy amryw o ddigwyddiadau a gweithgareddau.

Dyma ychydig o luniau gan Ifor o strydoedd Tranås ble bu beirdd o Sweden, Cymru, Gwlad Belg a Phortiwgal yn ‘sgwennu cerddi ar hyd y palmentydd gyda sialc. Mel Perry o Lansteffan oedd yn arwain y gweithdai.

Geiriau Sialc oedd cyfraniad Ifor.

Geiriau sialc

Mi wn y daw rhyw gawod – i gweirio

ein geiriau a’u datod;

a’n gwaith, heb iaith, ddim yn bod…

Am ragor o wybodaeth am ŵyl at the fringe, ewch i: https://www.atthefringe.org/

Am ragor o wybodaeth am y Bardd Cenedlaethol ac i ddarllen rhai o’i gerddi, cliciwch yma.

Uncategorized @cy