Dewislen
English
Cysylltu

Her 100 Cerdd #39

Cyhoeddwyd Iau 4 Hyd 2018 - Gan Osian Owen

Ymateb i gais Anest Bryn

Cerrig yr Orsedd

(25/09/2017)

 

Yn fan hyn am dri’r bore

roedd glaw o sêr yn herio

bod ’fory’n bod o gwbl

a’n chwerthin clecian eithin ni’n

mynnu herio’r meini.

 

Daethom i’w perchnogi

a sgeintio odlau a phoer chwerthin

yn bowdr gwyn arnynt.

 

Daeth bore heb inni sylwi.

 

Gwelsom Fôn a Chonwy ar dân

a môr o goch yn brochi.

Roedd caeau’r Fam Ynys

yn mynnu glynnu’n Huwcyn Cwsg

wrth amrant yr awyr…

 

…yn gwrthod deffro.

 

Nes oedd rhaid,

ac oren Awst yn ei daenu ei hun

yn farmalêd dros y Fenai.

 

Sleifiwn am adra’n sydyn

cyn i sisial y brwyn ar ein traed

gosi clustiau

trigolion Bangor Uchaf.

Osian Owen, 20.32 pm

Her 100 Cerdd 2018