Dewislen
English

Her 100 Cerdd #19

Cyhoeddwyd Iau 4 Hyd 2018 - Gan Manon Awst

Chwarel

 

Yn gafael mewn atgofion

hyd y foel mae’r adfeilion

brau yn gleisiau mawr gleision.

 

Yn fan hyn roedd cymuned

yn y garw agored

yn cynnal oriau caled

a’u torri yn bentyrrau

dyfn a llyfn efo’i llafnau.

 

Ond y cwar sydd wedi cau.

 

Manon Awst, 16.34 pm

 

 

Her 100 Cerdd 2018